Newyddion da o lawenydd mawr
Mae 'na bodlediad newydd wedi ei gyhoeddi. Gan fod hi'n hanner tymor y cynulliad does 'na ddim bonws yr wythnos hon ond fe fydd 'na goblyn o anrheg ar eich cyfer wythnos nesaf.
Fe fydd gwasanaeth newydd y ´óÏó´«Ã½ "Democratiaeth Fyw/ Democracy Live" yn cael ei lansio ddydd Llun. Rwy'n gwybod bod nifer yn ysu arbrofi gyda'r gwasanaeth "llais i destun" newydd ond mae 'na lawer mwy ar y safle gan gynnwys deunydd archif (gyda mwy i ddod) ac eitemau cefndir. Dydw i ddim yn ffan enfawr o'r enw. Yn anffodus fe gafodd fy awgrym i "Afallon yr Anoracs" ei wrthod!