大象传媒

Help / Cymorth
芦 Blaenorol | Hafan | Nesaf 禄

Rialtwch

Vaughan Roderick | 09:40, Dydd Sul, 11 Hydref 2009

odeon2.jpgPan mae basged awgrymiadau "Rialtwch" bron yn wag mae rhyw un neu ryw rai yn dod i'r fei! Diolch i Obell o Melbourne am gynnwys yr wythnos hon.

Fel teyrnged fach iddo sinema'r "Odeon Star" yn Semaphore, De Awstralia sydd yn y llun.

Mae'r sinema deuluol hon rownd y gornel i gartref cyfeillion i mi ac mae'n goroesi rhywsut yng nghysgod multiplex anferth.

Ymlaen a ni at y ffilmiau!

Fe fydd unrhyw un sy'n gweithio ym myd darlledu yn gyfarwydd iawn 芒 theimladau'r ddau gyfaill yma.

Yn y dyddiau amlbleidiol yma dyw'r "swingometer" ddim yn gweithio cystal ag oedd e yn 么l yn nyddiau dwy blaid y pumdegau. Nid bod hynny'n ein rhwystro rhag atgyfodi'r hen gyfaill ym mhob etholiad cyffredinol! Mewn 35 eiliad dyma hanner canrif o "swingometers" y 大象传媒 o 1955 ymlaen.


Thema cyfres HTV "Arthur of the Britons" yw'r miwsig. Am ryw reswm fe ddefnyddiodd y 大象传媒 hi ar gyfer rhaglenni etholiad 1983. Rhywbeth i wneud ac Arthur Scargill, efallai!

Blas o'r wythdegau sydd nesaf gydag ychydig o gerddoriaeth pync... yng Ngaeleg.

A dyma ychydig o gerddoriaeth gyfoes te reo M膩ori o Seland Newydd.

Mae 'na un ffilm arall na fedra i fewnosod ond sy'n werth ei gwylio. Yn mae Dick Cavett yn rhannu atgofion am Richard Burton a chewch wylio hanner awr cyfan o'r actor yn trafod Cymru, ei deulu a'i grefft.

Mwy o鈥檙 blog hwn鈥

大象传媒 iD

Llywio drwy鈥檙 大象传媒

大象传媒 漏 2014 Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.