´óÏó´«Ã½

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Trioedd Ynys Echni

Vaughan Roderick | 14:15, Dydd Mercher, 7 Hydref 2009

seagull_bbc_203.jpg1. Rwyf wedi sgwennu o'r blaen am y symiau anferthol o arian cyhoeddus y mae "Eglwys yr Holl Genhedloedd" yn derbyn trwy farchnata ei hadeiladau fel canolfan gynadledda. Yn y ddwy flynedd diwethaf fe dderbyniodd yr Eglwys dros £120,000 gan Lywodraeth y Cynulliad. Gallwn weld nawr i ble mae peth o'r arian yna'n mynd.

Mae'r Eglwys wedi gosod posteri ar nifer o safleoedd masnachol yng Nghaerdydd gyda'r slogan "". Meddyliwch am eiliad beth fyddai'r ymateb os mai Mosg oedd wedi derbyn cymaint o arian cyhoeddus ac wedyn wedi lansio ymgyrch hysbysebu yn "hawlio'r brifddinas i Islam"? Mae canolfan yr Holl Genhedloedd yn lle hwylus a chyfleus i gynnal cynhadledd ond ydy hi'n briodol i unrhyw gorff crefyddol dderbyn cymaint o arian cyhoeddus?

01_Jessica_Fletcher.jpg2. Dyw cogyddion ffreutur TÅ· Hywel ddim yn hapus. Tan yn ddiweddar wrth i'r gweithwyr fwyta'u ciniawau eu hun roedd hi'n arfer ganddyn nhw i wylio rhywbeth fel "Loose Women" neu "Murder She Wrote" ar y sgrin ar y wal. Nawr mae ordyrs wedi cyrraedd oddi fri. Un peth ac un peth yn unig sydd i'w ddangos ar y sgrin fawr sef y Cynulliad ei hun. Os ydy'r person wnaeth lunio'r gorchymyn yna'n cael ei ganfod a chyllell yn ei gefn ni fydd angen Jessica Fletcher i weithio allan pwy oedd yn gyfrifol!


_46315367_rhonddaleader_226.jpg3. Mae gan y "Rhondda Leader" cythraul o sgŵp. Jyst wrth i Carwyn Jones geisio argyhoeddi aelodau Llafur nad yw'n asiant gudd o Blaid Cymru daw cefnogaeth iddo o gornel annisgwyl.

Yn ei cholofn yn y "Leader" mae AC Plaid Cymru, Leanne Wood yn dweud hyn "it is no secret that I will be supporting Carwyn Jones. Carwyn is passionate about social justice and he will be a leader for the whole of Wales". Mae'n rhaid bod y peth yn wir. Go brin y byddai'r papur wedi bod mor amhroffesiynol a gosod llun ac enw Leanne ar frig colofn gan Leighton Andrews!


Paul Davies Heledd Fychan ac Iestyn Davies yw'r gwesteion ar CF99 heno. Ymhlith y pynciau trafod fydd stori sydd i'w gyhoeddi ar y brif wefan rhywbryd yma prynhawn ynghylch ymdrechion i orfodi i Aelodau Seneddol ddefnyddio'r Gymraeg. Fe allai ddychmygu hynny'n achosi harten i ambell un!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 17:09 ar 7 Hydref 2009, ysgrifennodd Rhodri:

    Vaughan,

    Mae cysylltiad rhwng Murder She Wrote a gwleidyddiaeth. Tadcu Angela Lansbury, yr actores sy'n chware Jessica Fletcher, oedd arweinydd y Blaid Lafur, George Lansbury.

    Efallai gall gwylio Murder She Wrote cyfri fel ymchwil wleidyddol?

  • 2. Am 17:41 ar 7 Hydref 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Da Iawn! Mae stad "Lansbury park" yng Nghaerfili wedi enwi ar ei ol , os ydw i'n cofio'n iawn.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

´óÏó´«Ã½ iD

Llywio drwy’r ´óÏó´«Ã½

´óÏó´«Ã½ © 2014 Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.