Tipyn o bregeth
"I ba enwad yr ydych chi'n perthyn?"
Pryd glywyd y cwestiwn yna ddiwethaf yng Nghymru, tybed?
Sbel yn ôl byswn i'n mentro! Wedi'r cyfan does 'na fawr o wahaniaeth rhwng yr enwadau anghydffurfiol y dyddiau hyn.
Hawdd anghofio felly bod 'na wahaniaethau diwinyddol, athronyddol a threfniadol pwysig rhyngddyn nhw yn y dyddiau pan oedd y capeli dan ei sang a diwygiadau'n mynd a dod bron mor rheolaidd â'r Gerallt Gymro!
Dydw i ddim yn arbenigwr ar y pethau 'ma ond os gofia i'n iawn un o'r rhaniadau pwysicaf oedd yr un rhwng selogion yr hen gorff oedd yn dilyn pum pwynt John Calfin a phobol Capel Wesle oedd yn troi at syniadaeth , Whitefield a Wesley ei hun am eu hysbrydoliaeth.
I'r graddau ein bod yn ymwybodol o'r ddadl o gwbl erbyn hyn, tueddu meddwl mai anghytuno ynghylch etholedigaeth a chyfiawnhad trwy ffydd oedd yr enwadau. Ond nid dadl ynghylch y byd nesaf yn unig oedd hon. Roedd hi'n ymwneud a'r byd yma hefyd. Yn wir gellid dadlau mai yn Arminiaeth y mae canfod gwreiddiau rhyddfrydiaeth a seciwlariaeth ein hoes ni.
Tra roedd y Calfiniaid wrthi yn codi eu Caersalem newydd yng Ngenefa roedd Arminiaid yr Iseldiroedd yn dilyn trywydd gwahanol iawn. Yn hytrach na cheisio creu gwladwriaeth unffurf, un grefydd fel yr un Calfinaidd neu Babyddol fe wnaeth yr Arminiaid ddadlau bod gwladwriaeth yn cael ei chryfhau gan oddefgarwch crefyddol, rhyddid mynegiant a hawliau dynol. Nid cyd-ddigwyddiad yw'r ffaith bod llyfrau Descartes a Galileo wedi eu cyhoeddi yn yr Iseldiroedd ymhell o olwg sensoriaid y Fatican a Paris!
Fe groesodd y syniadau hyn Fôr Iwerydd i Amsterdam Newydd a dim ond yn ddiweddar y mae haneswyr wedi dechrau deall syniadaeth trefedigaeth goll Manhattan yn natblygiad gwleidyddol a deallusol Gogledd America.
Y dydd o'r blaen fe wnes i dderbyn y llun ar y dde gan gyfaill sydd newydd ddychwelyd o Genefa. Rhan o ymgyrch refferendwm i wahardd Mosgiau'r Swistir rhag codi minaréts yw'r poster hyll ac haerllyg ac mae'n debyg eu bod i'w gweld ym mhobman.
Rhyfeddu oedd y cyfaill bod y fath beth yn digwydd yng Ngenefa. Mae'r ddinas honno, wedi cyfan, yn bencadlys i'r Groes a'r Cilgant Coch a nifer o asiantaethau'r Cenhedloedd Unedig. Gellir crynhoi delwedd ryngwladol y ddinas, ac yn wir y Swistir gyfan, yng ngeiriau enwog Harry Lime o'r Third Man; "In Switzerland they had brotherly love - they had 500 years of democracy and peace, and what did that produce? The cuckoo clock." Wrth gwrs o gofio Calfin efallai nad yw'r posteri yn gymaint â hynny o syndod!
Mae hynny'n dod a fi at bwynt y bregeth fach yma sef hwn. Mae anoddefgarwch a chasineb crefyddol neu hiliol yn gallu gwreiddio mewn unrhyw gymdeithas ac mewn unrhyw grefydd. Nid yn yr wrthddiwygiad yn unig yr oeddynt i'w canfod. Roeddent yn rhan o Brotestaniaeth hefyd. Mae'n rhaid gochel rhagddynt ym mhob man ac ar bob achlysur.
Mae'r gwrthdystiadau sylweddol yn erbyn ymdrechion shimpyl yr "English Defence League" yn Abertawe, Casnewydd a Wrecsam yn ddiweddar yn awgrymu nad yw Cymru'n dir ffrwythlon i'r dde eithafol. Dyw hynny ddim yn golygu y dylai'r eglwysi ac eraill wnaeth drefnu'r gwrthdystiadau rhoi'r gorau i'w hymdrechion.
Un o'r pethau mwyaf nodweddiadol am dwf y BNP yw methiant cymharol y blaid i fwrw gwreiddiau yn Llundain. Wedi'r cyfan, y ddinas honno yw cyrchfan y rhan fwyaf o ymfudwyr i Brydain ac mae ei gwasanaethau cyhoeddus o dan bwysau difrifol. Y rheswm pennaf am y methiant hwnnw yw'r ffaith na roddodd y pleidiau eraill na mudiadau sific le nac amser iddi dyfu. Yn wahanol i'r sefyllfa mewn rhannau o ogledd Lloegr a llefydd fel Essex fe'i heriwyd yn gyson ac yn galed o'r cychwyn cyntaf.
Geiriau Thomas Jefferson, yr Americanwyr o dras Gymreig wnaeth weu syniadau Arminiaeth i mewn i ddatganiad annibyniaeth America sy'n cyfleu'r pwynt gorau. "Pris rhyddid" meddai "yw gwyliadwriaeth dragwyddol".