Yn fy Marn i
Nid fy lle i yw rhoi hysbyseb misol i gylchgrawn Barn ond anaml iawn y dyddiau hyn mae rhifyn o'r cylchgrawn yn ymddangos nad yw'n haeddu post bach. Y mis hwn mae 'na ddau beth yn denu fy sylw. Y cyntaf yw sylwadau cryf y Gweinidog Diwylliant Alun Ffred Jones ynghylch cyflwr y theatr Gymraeg.
"Ers tua ugain mlynedd, fwy neu lai" medd y Gweinidog "dwi'n teimlo bod y bwrlwm a'r cynnwrf wedi mynd allan o'r theatr Gymraeg. Dyden ni ddim yn cynhyrchu stwff mentrus heriol da"
Digon teg. Ond pwy sy'n gallu rhoi cic yn eu tinau os nad y Gweinidog Diwylliant?
Trwy gyd-ddigwyddiad lansiwyd Theatr Genedlaethol Saesneg Cymru'r wythnos hon gan ddenu sylw neb llai na Radio 4 lle fu'n rhaid i'r cyfarwyddwr John McGrath ateb y cwestiwn rhyfeddol yma;
I understand but we know that this is a big political issue in Wales, you are confident that you won't have people standing outside the theatre with placards which many of your actors and writers won't be able to read, protesting about the fact that it's all in English?
Mae 'na fwy am hynny draw ar flog Betsan.
Un arall o gyfrifoldebau Alun Ffred yw testun yr ail erthygl sy'n denu fy sylw yn "Barn" sef un gan gyflwynydd Newyddion Deg y ´óÏó´«Ã½, Huw Edwards. Tynnu sylw at gyflwr ein capeli mae Huw yn "Chwalfa" (erthygl sydd ar gael ). Nid eu cyflwr ysbrydol na chrefyddol sy'n becso Huw ond cyflwr eu hadeiladau a'r ffordd y maen nhw'n cael eu gadael i bydru.
Mae'n amlwg bod Huw ar dipyn o grwsâd yn fan hyn. Mae e wedi treulio pedair blynedd yn ymchwilio ac ysgrifennu llyfr ynghylch Capeli Llanelli sydd i'w gyhoeddi ar Ragfyr 5ed. Mae Huw'n poeni'n arw bod cymaint o adeiladau capel yn cael eu colli. Wedi'r cyfan rhain yw'r peth agosaf sy 'da ni at bensaernïaeth genedlaethol Gymreig.
Ond sut mae eu hachub nhw? Yn achos Llanelli mae 'na 22 capel yng nghanol y dref yn unig gyda 20 arall yn y pentrefi cyfagos. Nid yw'n bosib troi pob un yn Amgueddfa neu'n Ganolfan Gymunedol!
Mae hynny'n dod a ni at y ynghylch troi capel yng Nghasnewydd yn fosg a'r protestiadau yn erbyn hynny gan yr "English and Welsh Defence League".
Mae unrhyw un sydd wedi bod mewn mosg oedd arfer bod yn gapel yn gwybod bod yr addasiadau hyn yn cael eu gwneud gyda'r parch mwyaf a chan newid cyn lleied ac sy'n bosib. Yn fy mosg lleol i, er enghraifft, mae'r holl gerrig coffa i weinidogion ac aelodau 'r eglwys fu farw mewn rhyfel wedi eu cadw. Mae'n rhaid i'r seddi fynd, wrth gwrs, ond yn achos capel Casnewydd roedd hynny wedi digwydd blynyddoedd yn ôl.
Yr wythnos ddiwethaf fe gyhoeddodd Alun Ffred Jones bod cymorthdal oyn cael ei rhoi i ddiogelu un adeilad Capel hynod bwysig. Capel Victoria Road yng Nghasnewydd yw hwnnw, yr union gapel y bu'r dde eithafol yn protestio yn ei gylch! Cymdeithas Islamaidd Gwent sy'n derbyn yr arian ac yn sicrhau bod un adeilad hanesyddol o leiaf yn cael eu diogelu.
SylwadauAnfon sylw
Byddai'n ddiwrnod trist iawn pe bai radicaliaeth a menter unrhyw ddiwylliant yn ddibynnol ar lywodraeth - o'r gwaelod mae'r fath bethau'n dod, nid y top. Efallai fod y Gymru Gymraeg wedi mynd yn rhy flonegog a chyfforddus (chwedl Hywel Williams yn Golwg).
O ran capeli - os ydi'r Cristnogion o ddifri am gyfiawnder cymdeithasol, dylai pob capel gwag gael ei droi drosodd gan yr enwadau i'r gymuned fedru codi tai fforddiadwy. Dyna be sy wir angen yn ein trefi a'n pentrefi. Yn lle hyn, mae'r enwadau yn eu gwerthu am y pris uchaf.
Credaf fod yr enwadau wedi eu caethiwo, yn ol eu statws , i werthu capeli am y pris uchaf - statws elusen. Nid oes ganddynt ddewis. Yn aml, cyfyd yr un sefyllfa gyda tai sy'n eiddo i achosion - tai gwenidogion a gofalwyr.
Bu achos diweddar yn Sir Gaernarfon o ddrwgdeimlad wrth i gapel beidio gwerthu ty i ofalwyr (oedd hefyd yn aelodau) . Yn anffodus, rhaid oedd cael y pris gorau ar ei gyfer. Peth hawdd iawn yw pwyntio bys at gapeli.