Pop corn
Dim ond nodyn i'ch atgoffa y gallwch wylio ymddangosiad Peter Hain ar "" am 2.30 3.15 dwn i ddim pryd heddiw. Rwyf wedi prynu'r pop corn yn barod!
Mae'n debyg y bydd y sesiwn yn debyg i un o rai'r ail gynulliad gydag aelodau Plaid Cymru, i bob pwrpas, yn ymddwyn fel gwrthblaid gan ymuno a'r Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol wrth geisio manteisio ar lanast ddoe. Cofiwch mai mewn clymblaid â Rhodri Morgan mae Plaid Cymru nid un â Peter Hain!
Mae'n werth cofio hefyd bod nifer o Aelodau Cynulliad Llafur yn anhapus tost ynghylch datganiad Hain/Morgan/Owen. A fydd rhai o'r rheiny yn dweud eu dweud? Et tu...
Yn y cyfamser mae'r Llywodraeth yn San Steffan yn bwriadu cynyddu pwerau Senedd yr Alban. Mae'r manylion yn .
Fe fydd Adam Price a Glyn Davies ymhlith y gwesteion ar CF99 heno. Fe fydd Uwchgynhadledd Copenhagen a dyfodol y Glymblaid ar yr agenda. Mae croeso i chi adael sylwadau neu gwestiynau.
SylwadauAnfon sylw
Faint o ACau Llafur sy'n "anhapus dost" gyda phethau, byddech chi'n amgangyfrif, Vaughan? Ydy hi'n nifer arwyddocaol? Neu'n debygol o fod yn arwyddocaol mewn ffordd arall, tybed?
Nifer sylweddol, os bosib mwyafrif, ddywedwn i- ond go brin y bydd mwy nac un neu ddau yn dweud hynny'n gyhoeddus heddiw.
Odi'n wir fod y Llywydd yn cadw Hain i aros a phydru tra'n gadael cwestiynau a'r datganiad i ymlwybro at eu terfyn...?
"Yn y cyfamser mae'r Llywodraeth yn San Steffan yn bwriadu cynyddu pwerau Senedd yr Alban."
Ie - cynydd sylweddol heb refferendwm...tra bo ni yn bwriadu....
Dewi: ""Yn y cyfamser mae'r Llywodraeth yn San Steffan yn bwriadu cynyddu pwerau Senedd yr Alban.""
cwestiwn i un o'r ACau ofyn heddiw? Pam fod yr Alban yn cael eu trystio i fwrw mlaen gyda rhagor o bwer a chyfrifoldeb ariannol a Chymru dal ddim digon da i gael yr un pwer ag sydd gan yr Alban cyn Calman.
Pam fod gan Lafur feddwl mor isel o Gymru?