´óÏó´«Ã½

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Trwy Gyfrwng y Cyfrwng

Vaughan Roderick | 12:35, Dydd Mawrth, 24 Tachwedd 2009

_1643995_fax150pa.jpgUn o'r pethau sy' digalonni dyn wrth fynd yn hun yw gwylio gwyrthiau technoleg un degawd yn cael eu gwthio i'r naill ochor yn y nesa. Betamax... VHS... cryno ddisgiau... Fe gyfrais i nhw mas ac fe gyfrais i nhw 'nôl!

Yn Eisteddfod Casnewydd yn 1988 y gwelais i'r wyrth honno, y peiriant ffacs am y tro cyntaf. Meddyliwch! Danfon dogfen dros y ffôn! Anhygoel!

Mae'r ffacs bellach wedi ei daflu i sgip hanes gyda'r "Walkman", y "´óÏó´«Ã½ Micro" a'r "Sinclair C5" ond gallai hynny pery problem i'r Cynulliad. Mae'n rhaid i bwy bynnag sy'n cael ei ethol yn brif weinidog ymhen ychydig wythnosau dderbyn sêl bendith y Frenhines. Sêl bendith y Frenhines...yn llythrennol. Dim ond llythyr a'r sêl frenhinol arni neu lungopi o'r llythyr wedi ei ffacsio sy'n cyfri. Gwnaeth e-bost ddim o'r tro.

Gallaf ddychmygu'r olygfa ar ôl i'r arweinydd newydd gael ei ddewis gyda phawb yn ei longyfarch a dymuno'n dda iddo nes i ryw was bach codi ei lais a gofyn "oes unrhyw un yn gwybod sut mae gweithio peiriant ffacs?"

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 00:28 ar 25 Tachwedd 2009, ysgrifennodd Obell:

    Beth am ogoniant y telecs Vaughan ??!!

    Mae gan bapurau newydd Seland Newydd eitem ar dechnoleg anghofiedig heddiw.....

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

´óÏó´«Ã½ iD

Llywio drwy’r ´óÏó´«Ã½

´óÏó´«Ã½ © 2014 Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.