Coroni Carwyn
Carwyn Jones yw'r arweinydd Llafur newydd. Doedd dim sioc funud olaf felly ac eithrio maint y fuddugoliaeth.
Beth sy nesaf, dwedwch? Perswadio pobol i ddefnyddio'r cyfenw cywir efallai!
Ta beth, fe fydd 'na ddigon amser i drafod y goblygiadau yn y man ond y peth cyntaf i nodi yw bod gan yr arweinydd newydd gythrau o fandad. Does arno fe ddim byd i'r ymgeiswyr eraill. Mae'n bosib y bydd Edwina neu Huw neu'r ddau yn y cabinet ond does y naill na'r llall yn gallu hawlio lle.
Gan fy mod wedi cyfaddef yn gynharach heddiw fy mod wedi colli etholiad i Leighton Andrews dyma gyfaddefiad arall. Fe nhad-cu wnaeth briodi taid a nain Carwyn. Diawch, mae Cymru'n lle bach!
SylwadauAnfon sylw
Faint o Gymraeg a wnaeth Carwyn Jones siarad yn ei anerchiad ddoe, Vaughan ?
Annwyl Vaughan,
Tybed a fderu di esbonio rhywbeth wrtha i, os gweli'n dda.
Yn dilyn buddigoliaeth Carwyn mae'r sylwebwyr oll yn dweud fod y fuddigoliaeth swmpus ar y balot cyntaf yn rhoi 'mandad' cryf iddo.
Esgusoder fy naifrwydd a diffyg gwybodaeth, ond 'mandad' ar gyfer beth yw hyn?
Oherwydd, mae'r Blaid Lafur i fod y blaid ddemocrataidd, ac nid yw'r grym dros y blaid yn gorwedd yn nwylo un person, ond yn hytrach yn nwylo y corff cyfan o aelodau. Nhw sydd (i fod) i benderfynu ar gyfeiriad y Blaid, ac ar ei pholisiau craidd, a hynny yn y pendraw trwy'r gynhadledd flynyddol. Er gwaethaf i Carwyn Jones a'r ddau arall gyflwyno maniffesto personol yn cynnig eu gweledigaeth a pholisiau, does bosib fod etholiad arweinydd yn rhoi rhydd hynt iddo weithredu fel y mynno, neu hyd yn oed weithredu ei faniffesto heb gyntaf cael sel bendith cynhadledd ddemocrataidd ar bob un pwynt oddi fewn iw faniffesto yn unigol.
'Mandad' ar gyfer beth yw hyn felly?
Diolch.
Dim llawer. I fod yn deg doeddwn i ddim yn gwrando'n rhy astud gan fy mod yn siarad drwyddi ar Bost Prynhawn. Cefais i dynnu braidd nad oedd Llafur wedi darparu offer cyfieithu.
Dwi'n meddwl bod pobol yn cyfeirio at ad-drefnu'r cabinet yn bennaf. Yn sicr dyna dwi'n ei olygu! Dyw Carwyn ddim yn gorfod pryderu ynghylch pechu cefnogwyr Edwina a Huw wrth ddewis ei weinidogion. Yn ychwanegol mae Carwyn wedi mynegu pryder ynghylch cyflwr trefniadaeth fewnol y blaid gan addo ei diwygio. Mae maint ei fuddugoliaeth o bwys wrth ddelio a'r Pwyllgor Gwaith.
Nid ennill etholiad i ddod yn unben wnaeth Carwyn Jones yr wythnos hon, mae'n wir. Ond, does bosib ei fod o mewn sefyllfa gref iawn fel arweinydd ei blaid - o leia am y tro. Mi fydd hi'n ddiddorol, felly, gweld sut y bydd o'n delio ac yn ymateb i 'ymyrraeth' hunan-ganolog Peter Hain. Er ei les ei hun, dwi'n credu, fe dalai iddo fynnu ei ffordd ei hun ar fater y refferendwm o'r cychwyn cyntaf. Ac mae angen pleidleisiau Plaid Cymru arno i ddod yn Brif Weinidog, wrth gwrs!