Problem Peter
"Marmite" oedd disgrifiad rhai o bobol Carwyn Jones o Edwina Hart yn ystod yr etholiad diweddar. Hynny yw, roedd pobol naill ai'n dwli arni neu'n ei chashau. Mae'n ymddangos bod yr un peth yn wir am Andrew Davies ei threfnydd ymgyrch.
Doedd Andrew ddim wedi cau allan y posibilrwydd o aros yn y cabinet am ei ddeunaw mis olaf yn y Bae. Carwyn wnaeth gau'r drws yna trwy ddweud "rwy'n deall ei benderfyniad i ganolbwyntio'i egni ar ei etholwyr yng Ngorllewin Abertawe dros y 16 mis nesaf". Oi! Cawyn! Nid dyna ddywedodd e! Ti sy'n dweud hynny! Waeth i ti ychwanegu "caewch y drws ar y ffordd mas" ar ddiwedd y datganiad!
Yn y cyfamser mae ymadawiad Andrew yn creu problem i Peter Black. 1,511 oedd mwyafrif Andrew dros y Democratiaid Rhyddfrydol yn 2007 ac mae Andrew'n boblogaidd yn yr etholaeth. Mae 'na bosibilrwydd go iawn y gallai'r Democratiaid Rhyddfrydol gipio'r sedd yn 2011 ond gallai hynny olygu golli sedd restr Peter!
Lle sydd orau iddo sefyll felly, yr etholaeth neu'r rhestr? Fe fydd Peter yn gorfod darllen y "bar-charts" yn ofalus iawn. Rwy'n gobeithio ei fod yn gwneud y penderfyniad iawn. Mae ceisio dychmygu'r cynulliad heb Andrew yn ddigon gwael ond fe fyddai colli Peter hefyd yn ddigon i dorri calon dyn.