Rhannu car?
Annoeth fyddai gadael gwaddod CO2 tra bod cynhadledd Copenhagen yn ei anterth. Tybed felly beth fydd trefniadau cludiant tri o weinidogion llywodraeth Cymru Ddydd Mawrth nesaf, dau o Blaid Cymru ac un o'r Blaid Lafur. Ydi'r glymblaid yn ymestyn hyd at rannu car a pwy fydd y 'back seat driver'?
Mae'r dirprwy weinidog Jocelyn Davies yn ymddnagos ger bron y pwyllgor materion cymreig yng nghyd destun yr lco tai, y dirprwy Brif Weinidog Ieuan Wyn Jones a'r Gweinidog Iechyd Edwina Hart yn dystion yn ymchwiliad y pwyllgor i wahaniaethau traws ffiniol ym maesydd trafnidiaeth a Iechyd.
Oedd roedd rhaid i minnau edrych eilwaith i sicrhau nad oedd fy llygaid i'n methu. Edwina Hart ger bron y pwyllgor? Tra'n ennill fy mara menyn yn San Steffan fe glywais aelodau seneddol Llafur yn poeri gwenwyn am iddi wrthod ymddangos yn gynharach eleni. Does wybod sawl pleidlais gostiodd hynny iddi yn y ras am arweinyddiaeth Llafur Cymru.
Yn ol un aelod o'r pwyllgor mae'r sefyllfa wedi bod fel 'pantomime'. Roedd disgwyl tan dymor y panto i gyfarch y pwyllgor o bosib yn gynllun wedi'r cwbl
SylwadauAnfon sylw
Croeso Aled. Roeddwn yn meddwl y byddai yn well i rhywun wneud sylw. Mae na ddywediad yn does "Dwi yn hoff iawn o deithio mewn bysus y peth dwi yn gasau ydi'r teithwyr eraill " Dwi yn siwr bod hyn yn wir am geir gweinidogion. Beth yw'r pwynt cael car swyddogol a gorfod ei rannu !! Fe dybiaf y bydd rhyw reswm dilys am ddechrau o lefydd gwahanol ac ymrwymiadau eraill oedd yn gwneud y peth yn amhosibl. Efallai mai tanc fydd Edwina ei angen o gofio ei phoblogrwydd gyda AS. Mae eraill yn honni mai bwldoser fyddai fwyaf priodol.
Ar y tren mae Ieuan a Jocelyn yn teithio i Lunden, mae'n siwr...!