Tân ar groen
Y glo mân sy'n mygu tân medden nhw ac mae 'na un darn bach o gyhoeddiadau Carwyn Jones ynghylch ei lywodraeth sy'n dân ar groen ambell i Lafurwr.
Cyn iddo gael ei ddyrchafu i'r Cabinet adfywio'r economi yn ardaloedd tlotaf Cymru, llefydd fel Merthyr, Cwm Cynon a'r hen bentrefi llechi, oedd maes llafur Leighton Andrews . Fel dirprwy weinidog roedd Leighton yn atebol i Ieuan Wyn Jones ond fe, yn amlach na pheidio, oedd yn cynrychioli'r llywodraeth wrth drefnu a lansio prosiectau.
Mae pethau wedi newid o dan Carwyn. Mae adfywio ardaloedd difreintiedig bellach yn rhan o adran Jane Davidson. Yn fwy pwysig y dirprwy weinidog perthnasol yw Jocelyn Davies o Blaid Cymru. Ofn rhai yn y blaid Lafur yw y bydd hynny'n galluogi i Blaid Cymru hawlio'r clod am lu o brosiectau yn yr union ardaloedd lle fydd Llafur a Phlaid benben a'i gilydd yn 2011. Yng ngeiriau un llafurwr gallai hon fod yn "gythraul o anrheg Nadolig i Blaid Cymru".
SylwadauAnfon sylw
yn "gythraul o anrheg Nadolig i Blaid Cymru".
Hmm - dyma ddyfyniad o adroddiad yr ONS ar GVA:
"And for NUTS3 lower regions we have:
Bottom five GVA per head
Conwy and Denbighshire £11,910
Central Valleys £11,604 (Cymoedd Morgannwg?)
Gwent Valleys £11,397
Wirral £11,257
Isle of Anglesey £10,998"
Sialens yn hytrach nag anrheg...