Y "Greatest". Am un noson yn unig.
Dyma gwestiwn cwis bach i chi. Pwy sy'n rhedeg Cymru ar hyn o bryd?
Nid Rhodri Morgan. Mae fe wedi mynd. Nid Carwyn Jones ychwaith. Mae'n rhaid iddo fe ddisgwyl sêl bendith y Frenhines.
Mae gweinidogion Llywodraeth Rhodri yn parhau yn eu swyddi ond pwy sydd wrth y llyw? Pwy sydd yn y sedd fawr? Credwch neu beidio am y tro cyntaf yn ei hanes y "blaid fach" sydd mewn grym. Ieuan yw'r "Greatest"!
Nawr, efallai y bydd hynny'n dod gwen i wyneb Ieuan. Rwy'n tybio y bydd 'na wen hyd yn oed yn fwy ar wyneb Glyn Davies wrth ddarllen y stori yn y Daily Mail.
"Passengers on board a luxurious cruise ship were shocked to find Lib Dem Lembit Opik joining them at a time when Parliament was sitting... the MP for Montgomeryshire... has just got back from a trip around the Canary Islands on board Cunard's second largest ship, the Queen Victoria... Opik, 44, was given a free six-day trip, worth around £3,000, in exchange for giving two lectures to the 2,000-odd passengers."
Ond pam mae teithwyr yn talu cymaint i glywed safbwyntiau Lembit? Wedi'r cyfan, mae'n bosib eu canfod am ychydig geiniogau'n unig ar dudalennau'r Sbort!
I ddod a gwen i wyneb pawb fe fydd Elinor Burnham yn canu carol i ni ar CF99 heno. Cofich wylio! Fe fydd Cunard yn ei bachu hi o fewn byr o dro!
SylwadauAnfon sylw
ha! o lle ma'r llun 'na'n dod, vaughan??
ma'n galw am gapshon competishon do's bosib??
"the most recognized and loved man that ever lived ... meets muhammad ali"
Am yr ail waith mae'r Blaid fach wrth y llyw dwi'n meddwl ia? Onid Ieuan oedd y bos pan oedd Rhodri'n sal ar ol yr holl straen o drio darbwyllo Hain a'i debyg am fanteision dod a'r Nashis i fewn i Lywodraeth Cymru?
Rhywbeth arall i Ieuan bendroni ar ol ei gyfnod byr fel arweinydd y Cynulliad.
Deall o ddarllen blog Betsan fod Trefor Jones wedi sefyll i lawr fel ymgeisydd y ceidwadwyr ym Mon. Dwi ddim yn saff beth fydd goblygiadau hyn a phwy fydd yn elwa ? Fe fydd lot yn dibynnu ar ymgeisyddiaeth neu beidio Peter Rogers fe dybiaf ? Mae yn anodd darogan ond mae Mon yn driw i aelodau sefydledig felly fe allai fod o gymorth i Albert Owen. Diddorol.
Fel mae'n digwydd doedd Llywodraeth Cymru'n un ddim eto wedi ei ffurfio'n swyddogol yn ystod y cyfnod (gweddol byr) yr oedd Rhodri allan ohoni. Jane Hutt oedd wrth y llyw ond am rhyw reswm does neb byth yn credu hynny!
Cafodd y llun ei dynnu yn ystod ymweliad IWJ a Chwpan Ryder yn Georgia (UDA). Roedd Ieuan yn ceisio perswadio Alis i sefyll fel ymgeisydd rhestr..neu rywbeth!
Mae Ieuan yn edrych yn gawr yn y llun yna ond un bach yw e ond te fe? Rhaid bod y cawr - Ali wedi dirwyio'n gorfforol. Trueni mawr.
A dweud y gwir, Vaughan, roeddwn yn credu fod gan Elinor Burnham lais swynol, ac roedd yn berfformiad graenus ganddi. Da iawn hi. Mae cael gwleidydd i ganu carol ar ddiwedd rhaglen trafod materion gwleidyddol Cymreig yn dangos ein bod ni'n genedl gwbl wahanol i'r Saeson. Rydym yn debycach i'r Gwyddelod yn hyn o beth. Onid yw'r Taoiseach, Brian Cowan, yntau hefyd yn gantor, ac yn hoff o daro nodyn weithiau?