Iechyd da!
Fe wnes i sgwennu pwt y dydd o'r blaen am y gystadleuaeth frwd i gadeirio'r is-bwyllgor datblygu gwledig gyda Joyce Watson yn pwdu braidd ar ôl i Rhodri Glyn Thomas gael y swydd.
Roeddwn i'n amau mai eisiau cyfle i wella ei phroffil yn y Canolbarth a'r Gorllewin oedd Joyce ond efallai bod 'na esboniad arall. Mae'r is-bwyllgor newydd gyhoeddi maes llafur ei ymchwiliad nesaf- diwydiant gwin, cwrw a seidr yng Nghymru.
Maen nhw'n gadael y chwisgi tan flwyddyn nesaf, mae'n debyg!
SylwadauAnfon sylw
s'dim syndod bod Rhodri Glyn moyn y jobyn te...
Gobeithio bydd y pwyllgor yn cael cyfle i ymweld ag Asturias i brofi'r seidr naturiol sy'n cael ei gynhyrchu fan hyn. Mae llyodraeth y dalaith yn rhoi grantiau i bobl i blannu coed afalau ar gyfer y diwydiant lleol.
Mwy yn y blog.