´óÏó´«Ã½

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Mewn Picl

Vaughan Roderick | 12:46, Dydd Mawrth, 26 Ionawr 2010

_47182741_44677674.jpgDoes dim dwywaith bod David Pickering yn difaru ei fod wedi defnyddio adnoddau Undeb Rygbi Cymru i drefnu cinio codi arian i'r Blaid Lafur. Fe ddaeth ei ymddiheuriad o fewn oriau i'r ´óÏó´«Ã½ ddatgelu'r twpdra. Y cysylltiad â'r WRU oedd y rheswm dros gyhoeddi stori ond agwedd arall ohoni sydd wedi denu sylw rhai sef cost y tocynnau. Mil o bunnau? Am swper?
Beth mae pobol yn cael am hynny? Casgen o gafiar?

Yn ôl gwefan y "" lle mae'r cinio yn cael ei gynnal £35 yw'r pris arferol am ginio nos. Hyd yn oed os oedd David Pickering yn dewis talu am goffi a mint (£2 y pen) i bawb fe fyddai hynny'n gadael cythraul o elw i'r blaid Lafur. O gymryd, hynny yw, nad oedd potel yr un o Château Latour, 1er Cru Classé, Pauillac Bordeaux 1986 (£625) neu coctels yn y "Vanilla Rooms" wedi eu cynnwys yn y pris.

Mae pob un o'r pleidiau yn cynnal ciniawau i godi arian ond dydw i erioed wedi clywed am ddigwyddiad yng Nghymru gyda phris tocyn yn agos at yr un yma.

Gellir anwybyddu unrhyw awgrym mae'r cyfle i gale gair yng nghlust yr Ysgrifennydd Gwladol neu'r Prif Weinidog oedd yr atyniad. Wedi'r cyfan dy hi ddim yn anodd i unrhyw un gael pum munud o amser Peter Hain neu Carwyn Jones.

Efallai mai dyna wnaeth esgor ar bicl Pickering. Mae'r cinio i'w gynnal ymhen ychydig dros wythnos. Ydy hi'n bosib mai'r rheswm am ei e-bost byrfyfyr a difeddwl oedd bod 'na nifer sylweddol o gadeiri heb eu llenwi?

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 15:39 ar 26 Ionawr 2010, ysgrifennodd Efrogwr:

    Nothings tw gwd ffor ddy worcyrs, innit? Maent eisiau dangos ein bod nhw'n gallu cadw lan gydag elit y cracach Cymraeg sy'n rhedeg Cymru, fel mae Llafwrwyr gwrth Gymraeg yn dweud wrthon ni byth a hefyd.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

´óÏó´«Ã½ iD

Llywio drwy’r ´óÏó´«Ã½

´óÏó´«Ã½ © 2014 Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.