Hilariws
Fe fyddai cynnal refferendwm ar yr un diwrnod ac etholiad 2011 yn "pretty bloody confusing".
Pwy sy'n dweud? Elfyn Llwyd, arweinydd seneddol Plaid Cymru mewn cynhadledd newyddion y bore 'ma. Proffwydodd Elfyn y byddai'r refferendwm yn cael ei chynnal naill ai yn yr hydref neu ym mis Mawrth 2011.
Sut mae Plaid Cymru yn y cynulliad yn ymateb?
"Mae e'n anghywir" medd llefarydd.
Pwynt bach diddorol arall sydd wedi codi yw effaith addewid Gordon Brown y bore 'ma i gynnal pleidlais ar newid y system bleidleisio "erbyn yr hydref". Os ydy'r bleidlais honno yn cael ei chynnal beth fyddai barn y Comisiwn etholiadol am gael dau refferendwm ar yr un pryd gyda naill na'r llall a'u hymgyrchoedd "Ie" a "Na"?
"Pretty bloody cofusing" byswn i'n tybio!
Gyda llaw o fewn munudau i mi gyhoeddi'r post diwethaf ynghyd a llun o boster "Ie" 1979 derbyniais neges gan weinidog Llafur yn dangos bod yr union boster wedi ei fframio ar wal ei swyddfa. Dydw i ddim yn credu y dylai'r ochor "Ie" fyfyrio gormod ynghylch y bleidlais arbennig yna!
SylwadauAnfon sylw
Dwi'n cytuno 100% efo Elfyn Llwyd ar y mater yma.
Dwi'n cytuno efo'r hen Elfyn - mae cynnal etholiad cenedlaethol a refferndwm ar yr un diwrnod yn hurt o syniad - dwi ddim yn gweld unrhyw fudd o gwbl o wneud y peth