´óÏó´«Ã½

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Nid ar chwarae bach...

Vaughan Roderick | 09:59, Dydd Llun, 22 Chwefror 2010

Billy.jpgUn o ganlyniadau dirywiad y rhwydweithiau o newyddiadurwyr lleol yw bod straeon di-ri yn cael eu colli. Mae'r dyddiau pan oedd asiantaethau fel "Hill's Welsh Press" a "Cambrian" yn gofalu bod pob achos llys a phob cyfarfod cyngor yn cael ei gyfro wedi hen ddiflannu. Digwydd bod yn y llys ar gyfer achos arall oedd yr hunan liwtiwr wnaeth ganfod yr achos ynghylch y fam a'r methadon yng Nghaernarfon wythnos ddiwethaf, er enghraifft.

Does neb yn cribo'n ofalus trwy bapurau cyngor ychwaith ac mae straeon pwysig yn cael eu hanwybyddu oherwydd hynny. Dyma un ohonyn nhw.

Wythnos ddiwethaf fe gyhoeddodd Pwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc Cyngor Caerdydd adroddiad ar ddarpariaeth chwarae trwy gyfrwng y Gymraeg yn y brifddinas. Cynhaliwyd yr arolwg oherwydd yng ngeiriau'r Cyngor "y peryg bod plant yn yr ysgolion Cymraeg yn colli hyder ieithyddol ac yn ei gweld fel iaith academaidd oherwydd diffyg cyfleoedd i'w defnyddio".

Mae'r ffaith bod yr aelod cabinet perthnasol sef y Democrat Rhyddfrydol, Nigel Howells wedi gofyn i'r pwyllgor baratoi'r adroddiad a bod y pwyllgor wedi blaenoriaethu'r gwaith hwnnw yn adrodd cyfrolau am agwedd Cyngor Caerdydd tuag at yr iaith. Mae cynnwys yr adroddiad hyd yn oed yn fwy ysgytwol ac yn mynd ymhell y tu hwnt i ddarpariaeth chwarae.

Yn ôl yr adroddiad fe fydd y canran o blant yng Nghaerdydd sy'n derbyn eu haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg yn croesi trothwy ugain y cant yn ddiweddarach eleni a does 'na ddim arwydd o gwbwl bod yn cynnydd yn y galw yn debyg o arafu. Yn wir, yn ôl y pwyllgor mae'r ddinas, neu rannau ohoni, wedi cyrraedd "tipping point" ieithyddol lle mae'n rhaid ystyried y Gymraeg fel iaith gymunedol fyw yn gydradd a'r Saesneg.

Yn yr amgylchiadau hynny dyw hi ddim yn ddigon, medd y pwyllgor, i daflu tipyn o arian at fudiadau iaith gwirfoddol a disgwyl iddyn nhw gwneud y gwaith. Yn hytrach mae'n rhaid i'r Cyngor ei hun gael ei chwyldroi er mwyn cynnig gwasanaethau sy'n wirioneddol ddwyieithog. Mae'r pwyllgor yn gwneud cyfres o argymhellion yn ymwneud a phob agwedd o waith y Cyngor. Dyma ambell enghraifft;

- y dylai'r Gymraeg gael ei hystyried yn "fantais " ar gyfer pob swydd gyda'r cyngor ac eithrio'r rhai lle mae'n hanfodol. Dylai ymwybyddiaeth o ddyletswyddau cyfreithiol a diwylliannol y Cyngor tuag at y "Gaerdydd ddwyieithog" fod yn hanfodol ar gyfer pob swydd.

- y dylai uchel-swyddog ym mhob adran gael ei benodi'n "arwr y Gymraeg" i gydlynu a brwydro dros ddarpariaeth Gymraeg.

-y dylai'r Cyngor sefydlu ac arwain fforwm o fudiadau Cymraeg y ddinas i lunio a monitro cynlluniau iaith y Cyngor.

-y dylai gwariant a staffio y Gwasanaeth Ieuenctid (ac adrannau eraill y Cyngor yn eu tro) adlewyrchu'r ugain y cant o blant sy'n derbyn addysg trwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae 'na lawer mwy ac mae'r adroddiad yn werth ei ddarllen yn ei gyfanrwydd. Yn anffodus ac yn eironig, hyd y gwelaf i dim ond y fersiwn Saesneg sydd ar gael ar lein! Mae ar gael yng nghofnodion cabinet y cyngor yn . Yn yr un cyfarfod, gyda llaw, cytunwyd ar gynllun i agor deunawfed ysgol Gymraeg yng Nghaerdydd.

Rhyfedd o fyd a rhyfedd o ddinas!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 12:21 ar 22 Chwefror 2010, ysgrifennodd Iwan:

    I’r brifddinas eirias hon, i dir glas adar gleision, dy iaith sy’n gorymdeithio â’i geiriau brith, gan greu bro newydd. Mae’r darlun eang ar hyd ein sir dan ei sang. Ar hewlydd Caerdydd mae dôr i’r Gymraeg yma ar agor, ac nid dôr cilagored: yn Nhrelái mae’r ddôr ar led; ydy wir, mae iaith y dydd yn Nhreganna ar gynnydd. Yn Sblot caiff rhesi o blant eu diwallu â diwylliant; os awn ni i’r Eglwys Newydd iaith y plantos yno sydd yn canu yn acenion Cymry’r ddinas eirias hon.

    Pa un a wyt yn poeni neu’n llawn gobaith i’n hiaith ni, dwed hwrê i’w hyder heb swnian yr un casineb. Nid gwell Cymro’n Eifionydd nag ar y daith i Gaerdydd.

  • 2. Am 15:02 ar 22 Chwefror 2010, ysgrifennodd Rhys:

    Wow, mae'r rhain yn argymhellion blaengar iawn. Dw i'n methu cyrchu gwefan y cyngor i weld y cofnodion, ond mae'n biti nad yw pethau fel hyn yn cael mwy o sylw. Efallai mae dyma ble byddai gwasanaethau Hyperlocal Cymraeg yn ddefnyddiol:

  • 3. Am 00:00 ar 23 Chwefror 2010, ysgrifennodd Simon Brooks:

    Trueni mawr fod 'Iwan' wedi cyplysu'r newyddion cadarnhaol hwn am Gaerdydd gyda chyfeiriadau diangen (ac awgrym o 'gasineb' o bosib?) at Gymreictod Eifionydd.

    Y gwir am ddyfodol y Gymraeg yng Nghaerdydd yw na wyddom beth fydd ei dyfodol hi. Mae'r Gymraeg wedi bod yn iaith gymunedol mewn dinasoedd o'r blaen: yng Nghaerdydd ei hun, wrth gwrs (mewn llefydd fel Tre biwt a Sblott)ac yn bennaf oll yn Lerpwl. Yn Bootle yn yr 1920au, er enghraifft, roedd wyth capel Cymraeg.

    A fydd y Gymraeg yn goroesi yng Nghaerdydd yr 21ain ganrif, neu a fydd yn diflannu fel y gwnaeth yn Lerpwl? Diflannodd y Gymraeg yn Lerpwl oherwydd i'r llif mewnfudwyr o ardaloedd y Gymraeg sychu'n llwyr. Beth fydd tynged y Gymraeg yng Nghaerdydd pe doi'r mewnlifiad Cymraeg i Gaerdydd i ben oherwydd nad oes cymunedau Cymraeg eu hiaith yng Nghymru mwyach? Yn amlwg fe ddylai cefnogi'r Gymraeg yn y cymunedau Cymraeg eu hiaith fod yn flaenoriaeth strategol - i bawb yng Nghymru.

    Braf gweld cynlluniau Cyngor Caerdydd, serch hynny. Da iawn i wleidyddion y glymblaid P.C.-Rhydd Dem, a'r gweision sifil tu ol i'r llenni. Gan obeithio na fydd Llywodraeth y Cynulliad yn ormod o rwystr i'r cynlluniau addysgol. Ond fe gawn ni weld ar y pen yna cyn hir, mae'n siwr.

  • 4. Am 10:42 ar 23 Chwefror 2010, ysgrifennodd Iwan:

    Simon,

    Diolch am yr ymateb.

    Nid cyfeiriad diangen sydd yma, nac unrhyw fath o gasineb yn y byd. Cyfeiriad sydd yma at gwpled gan Twm Morys, sydd wedi ymddangos mewn sawl cerdd ganddo - "Gwell bod Cymro'n Eifionydd / nag ar y daith i Gaerdydd". Ymateb i'r cwpled hwnnw, ac anghytuno gyda'r hyn a ddywed ef, yw diben cwpled olaf fy nghywydd i. Ni chredaf y dylid rhoi pwysau ar unrhyw unigolion i fyw mewn ardal benodol ar sail ieithyddol.

  • 5. Am 13:56 ar 23 Chwefror 2010, ysgrifennodd MH:

    Rhys, mae'r ddolen yn gweithio'n well ... gobeithio!

    Sylwais i ar yr ysgol Gymraeg newydd yng Ngabalfa . Ar yr un un pryd, fel mae'n digwydd.

  • 6. Am 15:29 ar 23 Chwefror 2010, ysgrifennodd Prifddinaswr:

    Newydd da iawn - a longyfarhiadau i bobl tu ol y llenni ym Menter Iaith Caerdydd ar wneud gwaith caib a rhaw yn ffonio a dadansoddi faint (neu cynlleied) o weithgareddau Cymraeg sydd yn y ddinas ac i gynghorwyr di-Gymraeg fel Neil McAvoy am fod mor gefnogol a pharod i godi ei lais dros y Gymraeg.

    Fel noda Simon, (a phawb am wn i) y gamp nawr yw gwreiddio - na, ail-wreiddio'r iaith (roedd yn iaith hyd at o leiaf hanner y boblogaeth yn yr 1840au a 67% o drigolion Llysfaen yn 1901) a bod llwyddiant Caerdydd heb fod ar draul unrhyw rhan arall o Gymru.


  • 7. Am 12:15 ar 24 Chwefror 2010, ysgrifennodd Maurice McGoldrick:

    Ie, mae'r Cyngor bellach yn rhagweithiol o ran addysg Gymraeg ac mae hyd yn oed wedi agor trafodaethau gyda'r Eglwys Gatholig i weld a fyddai modd agor Ysgol Gynradd Gatholig Gymraeg yn y brifddinas!! Mae nifer o gatholigion eisiau ysgol o'r fath (a finnau yn eu plith) ar gyfer eu plant. Mae'n amlwg bod miloedd o gatholigion eisoes yn derbyn addysg Gymraeg yn yr ysgolion Cymraeg cymunedol ond byddai cael Ysgol Gatholig Gymraeg yn gam enfawr ymlaen gan ddiwallu anghenion cymuned oedd, ar un adeg, yn eithaf gwrthwynebus os nad yn elyniaethus i'r Gymraeg. Chwarae teg i'r Cyngor am godi'r cwestiwn!

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

´óÏó´«Ã½ iD

Llywio drwy’r ´óÏó´«Ã½

´óÏó´«Ã½ © 2014 Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.