Parti mewn bragdy
Diawch, oes 'na etholiad ar y gorwel neu rywbeth?
Mae'r byd a'i wraig o gwmpas y lle yn ymgyrchu heddiw ac efallai bod lleoliadau eu cynadleddau newyddion a chyfarfodydd yn dweud rhywbeth am leoliad maes y gad yn ystod y misoedd y nesaf.
Yn ne Caerdydd a Phenarth, sedd sydd ond wedi ymddangos ar radar y Ceidwadwyr yn ddiweddar, y mae George Osborne heddiw. I fod yn deg mae Canghellor y Ceidwadwyr yn cwrdd â phobol busnes o bob rhan o'r brifddinas. Serch hynny mae'r ffaith ei fod yn ne yn hytrach na gogledd neu orllewin Caerdydd yn dweud rhywbeth.
Ym mragdy Brains mae Mr Osborne yn cynnal ei gynhadledd newyddion, gyda llaw. Fe wnes i gynnig ffeifar i unrhyw un oedd yn fodlon ei herio i drefnu "**** up" fel prawf o'i allu ond dydw i ddim yn disgwyl i neb wneud!
Yn y cyfamser fe fydd trigolion Llanelli yn ei chael hi'n anodd osgoi pobol fawr Llafur a Phlaid Cymru heddiw. Mae Carwyn Jones ac Ieuan Wyn Jones yn y dref gyda'r ddau am gymryd y clod am gynllun gwerth pymtheg miliwn i addasu capel Seion yn theatr tra bydd Peter Hain yn ymweld â'r ganolfan waith i gwrdd â phobol sydd ar gyfartaledd yn fwy cyfoethog na thrigolion Burkino Faso!
De Caerdydd? Llanelli? Mae hwn yn mynd i fod yn etholiad od ar y naw! Yn y cyfamser dwi'n clywed bod Llafur dal wrthi yn canfasio ar y ffon ym Mro Morgannwg. Pam? Oes 'na ryw wybodaeth gudd gan y blaid sy'n awgrymu nad yw pethau hanner cynddrwg ac maen nhw'n ymddangos?
SylwadauAnfon sylw
Wedi clywed yr un si ynglyn a'r Fro. Sydd yn atgoffa dyn o pam mor ddiffygiol oedd antennae gwleidyddol Llafur cyn etholiad Cynulliad 2007 - yn gwastraffu adnoddau mewn seddau oedd wedi eu hen golli... Di-glem.
Os 'di'r hyn dwi'n ei glywed yn gywir, criw lleol sydd wrthi yn y Fro. Ac ar un ystyr, chwarae teg iddynt. Ond yn strategol basa'n llawer ffitiach i'w plaid petaet yn ei throi hi am Benybont...
Ond fy nghwestiwn i, Vaughan, ydi hyn: pwy yn y Blaid Lafur (Gymreig) sydd yn meddu'r awdurdod i benderfynu lle i dargedu adnoddau a phryd i roi'r ffidil yn y to? Chris Roberts? Anodd credu. Peter Hain, efallai? Neu fel yr oedd yn ymddangos yn ol yn 2007, neb??
Richard, dydw i ddim yn credu bod unrhyw un yn penderfynu'r pethau yma'n strategol o fewn y blaid Lafur ar hyn o bryd. Mae gwahanol canolfannau a charfannau yn gweithio ar eu liwt eu hun hyd y gwela i. Dydw i ddim yn credu bod yna strategaeth ar lefel Gymreig neu os oes 'na dyw hi ddim yn cydlynu'n agos a strategaethau Prydeinig a lleol.