´óÏó´«Ã½

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Y Peiriant Pres

Vaughan Roderick | 10:15, Dydd Iau, 4 Chwefror 2010

_620037_williehamilton150.jpgGo brin fod unrhyw un dan ddeugain oed yn cofio Willie Hamilton ond fe oedd un o aelodau seneddol meinciau cefn mwyaf blaenllaw ei ddydd. Ei safbwyntiau gwrth-frenhinol di flewyn ar dafod oedd y rheswm am ei enwogrwydd. Nôl yn y dyddiau hynny roedd safbwyntiau o'r fath yn anarferol ac yn ymylu ar fod yn annerbyniol.

Nid safbwyntiau gweriniaethol Hamilton wnaeth wneud i mi feddwl amdano fe'r bore yma ond manylyn bach o ddiwedd ei yrfa seneddol. Roedd Hamilton wedi cynrychioli cadarnle Llafur yn Fife am bron i ddeugain mlynedd ond ar ôl penderfynu ymddeol o'r sedd honno safodd fel ymgeisydd Llafur mewn cadarnle Ceidwadol yn Nyfnaint gan ennill 8% o'r bleidlais.

Dydw i ddim yn cofio beth oedd esboniad Willie Hamilton ar y pryd. "Gwneud ffafr i'r blaid", "mwynhau ymgyrchu" neu rywbeth felly, mae'n sicr. Roedd rhai o'i gyd-aelodau yn fwy sinigaidd ynghylch ei gymhellion. Yn ôl yn 1987 doedd aelodau seneddol oedd yn ymddeol ddim yn derbyn taliad diswyddo. Roedd aelodau oedd yn colli sedd ar y llaw arall (hyd yn oed sedd y pen arall i'r wlad i'w un gwreiddiol) yn derbyn talp o arian.

Newidiwyd y drefn yn sgil achos Hamilton gyda phob aelod seneddol yn derbyn taliad wrth adael y senedd ar ôl deng mlynedd neu fwy. Un o argymhellion Syr Ian Kennedy yw y dylid dychwelyd i'r drefn lle mai dim ond aelodau sy'n colli sedd ddylai dderbyn taliad diswyddo.

Mae 'na synnwyr yn hynny, wrth reswm. Dyw aelod sy'n colli ddim wedi cael amser i wneud trefniadau ariannol, diweddu cytundebau llety, staff ayb yn yr un modd ac un sy'n ymddeol.

Ond sut mae rhwystro aelodau rhag gwneud yr hyn wnaeth Willie Hamilton? Ar ddiwedd y dydd fe fydd yn rhaid dibynnu ar yr aelodau eu hun i ymddwyn mewn modd anrhydeddus a didrachwant. A dyna sut dechreuodd yr holl sbloits yma wrth gwrs.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

´óÏó´«Ã½ iD

Llywio drwy’r ´óÏó´«Ã½

´óÏó´«Ã½ © 2014 Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.