Amser Chwarae
Cafwyd enghreifftiau ddoe o'r cynulliad ar ei orau ac ar ei waethaf. Y drwg i ddechrau. Os oedd angen prawf bod gwres yn gallu lladd goleuni fe gafwyd hynny yn y ddadl ynghylch adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar raglen ffyrdd y Llywodraeth.
"Just because you're paranoid doesn't mean they're not out to get you" medden nhw. Mae'n ddigon posib bod gan y Dirprwy Brif Weinidog reswm i fod yn flin da'r pwyllgor ac i gredu bod rhai o'r aelodau wedi mynd allan o'i ffordd i bardduo ei enw da.
Serch hynny, roedd hyd yn oed ambell i aelod Plaid Cymru yn credu bod Ieuan Wyn Jones wedi gwneud camgymeriad dybryd trwy fod mor ymosodol a dirmygus yn ystod y ddadl.
Dydw i erioed wedi gweld unrhyw un mor grac yn y siambr a chadeirydd y pwyllgor, Anegla Burns. Does neb yn dod allan o hyn yn dda. Mae'n werth gwylio'r ddadl yn ei chyfanrwydd ond y pum munud olaf yw'r darn allweddol.
Dadl adeiladol a chwrtais oedd yr un ynghylch cynlluniau ad-drefnu ysgolion ar y llaw arall. Roedd yr aelodau'n canmol eu hun oherwydd hynny. Yn y maes hwn mae'n biti nad yw'r agweddau cwrtais ac adeiladol hynny'n ymestyn y tu hwnt i'r siambr bob tro.
Clywais stori'r dydd o'r blaen am blant sydd mewn dagrau wrth fynd i'r ysgol oherwydd ymddygiad bygythiol disgyblion ysgol gyfagos sydd o dan fygythiad. Nid beio'r plant y mae'r rhiant y clywais i'r stori ganddi ond rhai o'u rhieni.
Yn ogystal â bod yn gwrtais i'w gilydd yn y siambr fe ddylai gwleidyddion (boed hynny ar Gyngor yn y Cynulliad) wneud eu gorau i rwystro dadleuon o'r fath rhag troi'n chwerw yn eu cymunedau.