Crypto
Un o'r pethau oedd yn poeni trefnwyr ymgyrch Carwyn Jones am yr arweinyddiaeth Llafur oedd y canfyddiad gan rai ei fod yn rhyw fath o genedlaetholwr cudd neu "crypto-nat" i ddefnyddio geiriau rhai o gefnogwyr ymgeiswyr eraill.
Aeth pobol Carwyn allan o'u ffordd i danseilio'r cyhuddiad hwnnw gyda'u hymgeisydd yn brolio ym mron pob araith ei fod yn falch o fod yn Brydeiniwr yn ogystal â Chymro
Heddiw cafodd newyddiadurwyr y Cynulliad eu gwahodd i barlwr y Prif Weinidog am de a bara brith i nodi ei ganfed diwrnod wrth y llyw a dyma i chi Gareth Hughes yn gofyn cwestiwn gan gyfeirio at y "papurau cenedlaethol". Dyma union ymateb Carwyn;
"Don't call them national papers. They're not national papers. They're London papers."
Mae hynny'n swnio braidd yn "crypto" i fi! Wedi'r cyfan fel mae David Cornock wedi nodi ar ei mae ymosodiadau ar "Lundain" yn rhan ganolog o strategaeth Plaid Cymru.
SylwadauAnfon sylw
Nid oes raid tybio, Vaughan, fod Carwyn Jones yn cuddio'i wir liwiau drwy ddweud y gwir plaen. Yr hyn a wnaeth oedd datgan beth sydd mor amlwg a'r dydd, sef pa mor wrthnysig yw'r papurau tuag at bopeth Cymreig. Edrychwch pa mor Seisnig yw gogwydd 'newyddion cenedlaethol' y Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig a ddarlledir o Lundain, er enghraifft. Does dim rhaid i neb fod a thueddiadau cenedlaetholgar i fedru gweld hynny.