Mesur y mesur
Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones yn westai ar CF99 heno ac yntau ar fin dathlu ei ganfed diwrnod yn y swydd. Roedd Rhodri Morgan arfer cynnal "photo-op" a theisen ar achlysuron o'r fath er mai'r newyddiadurwyr ac nid y gwleidydd oedd yn cael bwyta'r gacen. Doctors ordyrs!
Go brin y bydd Carwyn yn orawyddus i ddilyn esiampl neu dderbyn cyngor gan ei ragflaenydd am ddathliadau o'r fath nac unrhyw beth arall yn sgil ei sylwadau yn y pwyllgor deddfwriaeth sy'n ystyried y mesur iaith y bore 'ma. Fe roddodd Rhodri amser anghysurus i'r Gweinidog Treftadaeth a dweud y lleiaf.
Gofyn wnaeth y cyn brif weinidog a fyddai'n ddyletswydd ar y Comisiynydd Iaith i geisio sicrhau cydraddoldeb i'r Saesneg mewn ardaloedd lle mae'r Gymraeg yn iaith fwyafrifol. Roedd Betsan yn gwylio'r cyfarfod, ei blog hi felly yw'r lle i gael y manylion i gyd.
Does bosib nad yw Rhodri'n gwybod yn iawn mae nad hynny yw rôl y Comisiynydd. Siawns nad oedd e wedi trafod y peth droeon wrth i'r LCO iaith ymlwybro'i ffordd trwy goridorau San Steffan.
Mae'n ddigon posib mai ceisio sicrhau bod rôl y comisiynydd wedi ei ddisgrifio'n yn fwy manwl ac eglur yn y mesur oedd Rhodri. Dyna mae fe ei hun yn dweud ond fe fydd eraill yn ei weld fel enghraifft arall o'r berthynas ryfedd rhwng Rhodri a'r byd Cymraeg.
Ar y naill ochor mae'n siarad yr iaith a phob tro yn barod i'w defnyddio. Dyw e ddim yn un o'r gwleidyddion hynny sy'n gwrthod gwneud cyfweliadau Cymraeg os nad oes 'na gyfle i wneud un Saesneg hefyd. Mae 'na fwy o'r rheiny na fyswch chi'n meddwl. Gwna i ddim o'u henwi ond dyw Rhodri byth wedi bod yn un ohonyn nhw.
Ar y llaw arall mae Rhodri'n reddfol ddrwgdybus ynghylch unrhyw syniad neu awgrym sy'n deillio o'r hyn mae'n ystyried fel "y sefydliad Cymraeg". Mae agweddau Rhodri tuag at y sefydliad hwnnw (os ydy'r peth yn bodoli) wedi eu gwreiddio'n ddwfn ac a wnelo rhywbeth a'i ! Ta beth am hynny, maen nhw wedi eu hamlygu droeon ar hyd y blynyddoedd, yn natur gyfyngedig mesur iaith arfaethedig y llywodraeth ddiwethaf a'i agwedd tuag at addysg Gymraeg yn ei etholaeth, er enghraifft.
Serch hynny y tro hwn mae gan Rhodri bwynt dilys. Os nad yw'n rhan o rôl y Comisiynydd Iaith i fod yn bencampwr i'r Saesneg yng Ngwynedd oni ddylai'r mesur ddweud hynny?
Nid Rhodri yw'r unig un sy'n gweld diffygion y mesur. Fe fydd y rhai o ben-bandits byd y gyfraith yn mynegi eu hanfodlonrwydd mewn llythyr i'w wasg yfory. Mwy am hynny yn y man.
SylwadauAnfon sylw
hmmm, fel y gwyddom ni oll, mae'r Saesneg dan fygythiad. Mae Gwynedd yn llawn o blant i Saeson sy'n gwrthod siarad Saesneg am fod y Gymraeg mor gryf.
Ydy Llafur nawr yn amddiffyn hawl Saeson i beidio dysgu unrhyw Gymraeg tra'n mynnu (yn ol Gordon Brown, Jack Straw etc) fod yn rhaid i fewnfudwyr ddysgu Saesneg? Fydd Rhodri Morgan yn amddiffyn hawl Saeson i beidio dysgu Ffrangeg yn Ffrainc? Neu, ydy'r Gymraeg ond is-iaith a ddylse gwybod ei lle fel iaith y gegin gefn a'r capel?
Dydy'r Gymraeg ddim yn saff yn nwylo Llafur.
Mae'n biti ddaru Alun Ffred Jones ddim gofyn i Rhodri Morgan am rhoi enghreifftiau o lle mae'r Saseneg ddim ar gael yn Pen Lleyn?