Hen linell bell...
Os nad oes 'na ryw ddatblygiad annisgwyl fe fydd nifer o staff y Cynulliad (aelodau'r PCS) yn streicio am ddeuddydd wythnos nesaf. Mae ymateb y pleidiau i hynny yn cadarnhau ambell i sterioteip!
Fe fydd yr aelodau Llafur a rhai Plaid Cymru yn parchu'r llinell biced.
Fe fydd y Torïaid yn croesi'r llinell biced er mwyn gweithio fel arfer.
Dyw'r Democratiaid Rhyddfrydol ddim yn siŵr iawn beth i wneud!
"Plus ça change plus c'est la même chose" fel maen nhw'n dweud yn Abergeirw.
Syr Deian Hopkin yw'r gwestai arbennig ar y podlediad. Mwynhewch!