Hollti Blew
Pan oeddwn i'n grwt roedd yn gas gen i fynd i siop y barbwr. Mae hynny'n wir am y rhan fwyaf o fechgyn ifanc greda i ond roedd gen i reswm arbennig i ddrwg licio'r profiad. Y rheswm hwnnw oedd y barbwr ei hun Sarjant Major Winstone.
Dyn blin oedd y Sarjant Major ac roedd ei agweddau mor wladgarol Brydeinig a'i enw. Yr eiliad y byddai Mam yn gadael fy mrawd a finnau yn ei gwmni i fynd i siopa yn Thomas & Evans fe fyddai'r bregeth yn cychwyn.
Pam oedd fy mrawd a fi yn mynd i'r ysgol od yna lle'r oedd y gwersi yn Gymraeg? Hen iaith ddibwrpas oedd hi ac fe ddylwn ni fynnu cael addysg "go-iawn" os oeddem am wneud unrhyw beth o'n bywydau.
"Yes, Sergeant Major, please don't cut it too short!" oedd ein hymateb gan amlaf.
Anwybyddu'r cais a pharhau i daranu am "that awful gobbledegook" fyddai ei ymateb yntau.
Fedra i ond dychmygu beth fyddai ymateb y barbwr i'r Mesur Iaith arfaethedig!
Roedd hwnnw i fod ei gyhoeddi heddiw ond o dan delerau'r LCO mae'n rhaid cael cydsyniad adrannau Whitehall cyn bwrw ymlaen. Methodd y cydsyniad hwnnw gyrraedd mewn pryd. Mae wedi gwneud erbyn hyn. Gan fod ambell un yn y Llywodraeth yn meddwl bod y syniad o gyhoeddi'r mesur ar Fawrth y cyntaf yn "gawslyd" (eu gair nhw am "cheesy") dyw nhw ddim yn poeni gormod am yr oedi.
Ta beth, ers rhai wythnosau bellach mae pobol y Llywodraeth wedi bod yn mynd allan o'i ffordd i'n hatgoffa mai'r "mesur cyntaf yn unig yw hwn" a bod 'na "fesurau iaith eraill i ddod yn y dyfodol". Mae hynny'n awgrymu i mi fod y Llywodraeth yn gwybod y bydd y mesur yn pechu rhai o selogion y mudiadau iaith.
Cwestiwn mwy pwysig efallai yw i ba raddau y bydd y mesur yn pechu pobol fel y Sarjant Major a hynny oherwydd cydamseriad posib trafod y mesur a'r refferendwm i gynyddu pwerau'r cynulliad,
Tipyn o fyth yw'r honiad nad yw'r iaith yn bwnc sy'n gwahanu pobol Cymru bellach. Does ond angen edrych ar yr hyn sy'n digwydd yn Nhreganna a'r Eglwys Newydd yng Nghaerdydd ar hyn o bryd i wybod bod gan ddadleuon ieithyddol y potensial i fod mor wenwynig heddiw ag oedden nhw yn chwedegau a saithdegau'r ganrif ddiwethaf.
Y gwahaniaeth nawr yw bod y pleidiau i gyd, yn genedlaethol o leiaf, yn ymwrthod rhag defnyddio'r gwahaniaethau hynny er mwyn sicrhau mantais wleidyddol. Mae popeth sy'n cael ei ddweud am yr iaith wedi ei eirio'n ofalus a chymedrol.
Ar lefel Brydeinig mae 'na gytundeb digon tebyg ynghylch mewnfudo. Dyna yw'r rheswm y gwnaeth llid y blaid ganolog ddisgyn fel ar Geidwadwyr lleol yn Romford wythnos ddiwethaf.
Dyw cadoediad rhwng y pleidiau ddim yn golygu na fyddai ymgyrch "Na" yn y refferendwm yn ceisio corddi'r dyfroedd ieithyddol. Mae'n ddigon hawdd dychmygu'r sibrydion fyddai'n cael ei ledaeni ar gornel stryd ac yn siop y barbwr pe bai'r ymgyrch yn dymuno gwneud hynny. Heb os fe fyddai'r honiad y byddai pwerau deddfu yn andwyol i'r siop tsips ddiarhebol yna yng Nghas-gwent yn eu plith.
Yn sicr fyddai'r hen Sarjant Major byth bythoedd am roi'r pŵer i rywun ddweud wrtho ei fod yn gorfod cynnig "cefn ac ochrau byrion" yn ogystal â "short back and sides"!
Oedd y llywodraeth yn ofni misoedd o "drychwch beth maen nhw'n gwneud yn barod" wrth lunio'r mesur iaith? Efallai.
Ta beth mae'n debyg bod y mesur yn gythreulig o hir oherwydd yr angen i greu mecanwaith ar gyfer apeliadau. Fe fydd yn rhaid mynd a chrib man drwyddo i ganfod y goblygiadau i gyd. Un cymal allai fod yn ddadleuol yw un sy'n gorchymyn i weinidogion rhoi'r "sylw dyledus" i adroddiadau'r Comisiynydd Iaith.
Dyw hynny ddim yn swnio'n llawer o beth ond mae'n fwy o hawl na sydd gan y Comisiynwyr i blant a hen bobol. Gall eu hadroddiadau nhw fynd yn syth i'r bin. Nid bod hynny erioed wedi digwydd. Hyd y gwn i.
SylwadauAnfon sylw
Yn 2004 cafodd adroddiad gan y Comisiynydd Plant am gyflwr truenus toiledau ysgolion ei anwybyddu, i bob pwrpas, gan y llywodraeth ac awdurdodau lleol. Dim ond pan gyfeiriwyd at yr adroddiad yn Ymchwiliad Cyhoeddus E.coli yn 2008 yr aed ati i fynd i'r afael ag argymhellion y Comisiynydd Plant. Gobeithio na fydd y fath oedi yng ngyswllt y Comisiynydd Iaith.
Mae ymrwymiad yng Nghytundeb 'Cymru'n Un' rhwng Llafur a Phlaid Cymru i wneud 3 pheth yn benodol:
(a) cadarnhau statws swyddogol y Gymraeg a’r Saesneg
(b) cadarnhau hawliau ieithyddol o safbwynt darparu gwasanaethau
(c) sefydlu swydd Comisiynydd Iaith
"Byddwn yn ceisio cael mwy o hawl i ddeddfu o safbwynt yr Iaith Gymraeg. ...gyda’r nod o greu Mesur Cynulliad newydd i gadarnhau statws swyddogol ar gyfer y Gymraeg a’r Saesneg, hawliau ieithyddol o safbwynt darparu gwasanaethau a sefydlu swydd Comisiynydd Iaith."
Rhaid i'r mesur gynnwys y 3 ymrwymiad sylfaenol yma felly, neu bydd y Llywodraeth yn torri ei addewid.