Miri Mawr
Mae galw etholiad yn golygu tipyn o dro ar fyd i ni'r darlledwyr. Yn symbol o'r newid hwnnw mae aelodau uned wleidyddol ´óÏó´«Ã½ Cymru wedi hel eu paciau a gwasgaru ar draws y wlad ar gyfer y frwydr sydd i ddod.
Mae 'na rheolau newydd i ufuddhau iddyn nhw hefyd. Dyw nhw ddim chwarter mor gaeth a'r rhai oedd yn bodoli yn nyddiau Deddf Gynrychiolaeth y Bobol, diolch byth! Roedd y ddeddf honno i bob pwrpas, yn gwahardd holi ymgeiswyr nad oeddynt ymhlith enwau mawr eu pleidiau ar radio a theledu.
Un peth sy'n newid yn ystod yr ymgyrch yw bod y pleidiau yn cael enwebu llefarwyr ar gyfer rhaglenni. Y darlledwyr sy'n penderfynu gweddill yr amser.
Cofiwch mae'r pleidiau i gyd yn ceisio dod rownd i'r sefyllfa honno wrth i etholiad agoshau. Rhoi eu hymgeiswyr blaenllaw yn ffenest y siop yw bwriad pob un blaid, wedi'r cyfan. Dwn i ddim faint o weithiau rwyf wedi clywed cynhyrchydd yn dweud rhywbeth fel hyn lawr y ffon; "ydych chi'n sicr bod annwyd arno fe? Na na dydyn ni ddim eisiau Penri na Myfanwy/ Albert na Nia/ pwy bynnag!"
Un o'r rhaglenni y mae'r pleidiau'n enwebu llefarwyr ar eu cyfer yn ystod yr etholiad yma yw dadl arbennig i blant a phobol ifanc sydd wedi ei threfnu gan C´óÏó´«Ã½.
Mae'n amlwg bod y Ceidwadwyr yn credu bod eu barn (neu farn eu rhieni, efallai) yn bwysig gan enwebu David Cameron ei hun i lefaru ar eu rhan. Yr Ysgrifennydd Cartref Alan Johnson yw dewis y blaid Lafur ond pwy fydd gan y Democratiaid Rhyddfrydol, tybed? Wel, Lembit, wrth reswm.
Heb os, fe fydd Lembit yn dda gyda chynulleidfa ifanc ond rwy'n amau bod y Democratiaid Rhyddfrydol wedi colli tric yn fan hyn. Oni fyddai Lembit yn apelio'n fwy at frodyr mawr aelodau'r gynulleidfa?
Wedi cyfan, mae aelod Maldwyn wedi bod ym mlaen y gad yn y frwydr i geisio atal y cynydd yn y dreth ar seidr cryf- hoff foddion rhai o'n llanciau.
Fel mae'n digwydd fe gafodd y dreth honno ei hatal yn y "wash-up". Dydw i ddim yn gwybod p'un ai'r cynllun wnaeth Lembit ei awgrymu yn y Daily Sport oedd yn gyfrifol am y llwyddiant hwnnw;
"So, let's get Daily Sport stunna Lucinda to deliver a crate of pear cider to Gordon Brown to help change his mind. Maybe he'd say "Oh what a lovely pear!"
Nefoedd.