Argraffiadau- Arfon ac Aberconwy
Does 'na ddim "Dau o'r Bae" heddiw. Fe fydd y rhaglen yn ôl wythnos nesaf. Mae Elin Gwilym wedi bod yn defnyddio ei hamser "sbâr" i grwydro dwy etholaeth yn y Gogledd Orllewin.
Galwch fi'n 'hen ffash' ond dwi ddim fel arfer yn un am flogio, yn tueddu i wneud fy rhyngweithio cymdeithaol wrth giat yr ysgol neu bartion plant pum mlwydd oed! Gwaith ymchwil pwysig dybiwn'i o ystyried mai mamau ifanc, mae'n debyg, sy'n mynd i benderfynu canlyniad yr etholiad yma - fel yr 'worcester woman' yn '97.
Ta waeth, dyma fi yn gwneud ymdrech arbennig drwy feddianu blog Vaughan hefo chydig argraffiadau o'r Gogledd Orllewin ac mae na gryn diypn yn y fantol yn rhai o seddi'r Gogledd.
Yn Arfon ma Plaid Cymru yn brwydro'n galed i gadw gafael. Mae nhw'n dawel hyderus, ond Bangor ydi'r broblem. Maen nhw'n gobeithio na fydd Llafurwyr traddodiadol y ddinas honno yn trafferthu pleidleisio.
Os gwna nhw, fe all hi fod yn stori wahanol.
Ond oes na fygythiad o gyfeiriad mwy anisgwyl? Mae proffeil y Ceidwadwr yn yr etholaeth wedi bod yn uchel iawn ers misoedd bellach. Mae'n debyg fod hyd yn oed y Cofis yn cynhesu ato - dipyn o gamp!
Dwi heb fod dros y bont i Ynys Mon eto, ond wedi bod yn Aberconwy sawl gwaith. Ar ddiwrnod cynta'r ymgyrch rodd hi'n ymddangos fod petha'n tori'n fudur yno, honiadau fod un ymgeisydd wedi camarwain yr etholwyr yn ei daflen etholiad.
Yno a fi ar fy union i holi'r ymgeisydd dan sylw. Wedi imi gael pregeth mai llwyth o g**** oedd y stori yma fe gytunodd i gael ei ffilmio. Chydig eiliadau wedyn fe ddoth gwylan o rhywle a gollwng ei llwyth dros siaced yr ymgeisydd.
Lwc dda ma'n debyg, oedd yr unig air o gysur y gallwn ei gynnig.
Ond ar nodyn mwy difrofol mae'r Ceidwadwyr a Plaid yn gwbwl argyhoeddiedig eu bod nhw am gipio'r sedd gan Lafur. Wrth siarad hefo ambell i Lafurwr doedd y brwdfrydedd ddim yn byrlymu. "We've got to stay positive haven't we?" oedd yr ymateb swta. Ac ma gan y creadur dair wythnos arall o osgoi gwylanod.
*Doeddwn i ddim yn gallu meddwl am lun fyddai'n cyfleu Aberconwy ac Arfon. Fe wnes i ddewis Farrar Road yn y diwedd dim ond i blesio Gareth Hughes!