Argraffiadau- Ceredigion
Am y tro cyntaf, yn yr etholiad hwn mae gan ´óÏó´«Ã½ Cymru gohebwyr llawn-amser mewn rhai o'r etholaethau mwyaf diddorol. Fe fydd eu hargraffiadau'n ymddangos ar y blog o bryd i gilydd. Fe wnawn ni gychwyn yng Ngheredigion gydag Owain Clarke.
Os ydych chi am ddianc rhag yr etholiad, dyma gyngor caredig.
Peidiwch drefnu trip glan môr i Geredigion.
Prin yw'r llefydd sy'n fwy dymunol yn heulwen mis Ebrill ond o ran bwrlwm a chyffro etholiadol - does unman yn fy marn i yn gallu cystadlu ag etholaeth y Cardis.
Pan deithiais i yn y car o un pen o'r etholaeth i'r llall wythnos yn ôl - oriau'n unig cyn i Gordon Brown danio gwn yr etholiad - fe gyfrais i hanner dwsin o bosteri ar ochr yr hewl.
Wrth ddychwelyd tridiau yn ddiweddarach fe golles i gownt ar ôl cyrraedd 80!
Ond peidiwch a meddwl taw etholaeth amryliw yw hon. Ar wahan i ambell ddarn o gardfwrdd coch a glas mewn pocedi - yr unig liwiau welwch chi yw gwyrdd ac oren. Dyma'r unig etholaeth ymylol rhwng y Democratiaid Rhyddfrydol a Phlaid Cymru, gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol yn amddiffyn mwyafrif o 218 pleidlais yn unig. Hon, gyda llaw, yw'r unig etholaeth yng Nghymru a Lloegr lle nad oes gan Lafur na'r Ceidwadwyr obaith caneri o ennill.
Mae'r dadlau ynghylch yr holl bosteri wedi dechrau'n barod. Smo fi moyn eich diflasu chi'n ormodol ond dyma i chi flas o'r cecri.
Plaid Cymru - cyhuddo'r Democratiaid Rhyddfrydol o ddinistrio coed yn yr etholaeth ar ôl hoelio'u posteri i'r pren.
Y Democratiaid Rhyddfrydol - mynnu ei bod nhw wedi cael caniatâd perchennog pob coeden - a bod ambell ffarmwr yn cwyno bod posteri Plaid wedi ymddangos heb ganiatâd.
Y Ceidwadwyr- galw ar y Cyngor Sir i gael gwared ar tua 20% o'r posteri mae'r Toried yn dadle sy'n anghyfreithlon.
Llafur- cwyno bod dim digon o arian gyda nhw i gystadlu a'r lleill. Yng ngeiriau'r ymgeisydd "does gyda ni ddim coed Llafur yng Ngheredigion... ond mae 'da ni ffens"!
Pwy sydd a'u trwynau ar y blaen? Gwelaf ffens. Eisteddaf arni!
Rhagor gan Owain ar CF99 Nos Fercher.
SylwadauAnfon sylw
Mae plastro posteri yn arferiad yng Ngheredigion.
Elystan Morgan ddwedodd nol yn 1970 . . . "Petai gan bob postyn telegraff bleidlais mi fyddai'n gyhaeaf rhedyn arnai." Yn 1974 y cynhaeafwyd Elystan.
Y Lib Dems yn mynnu eu bod wedi cael caniatad perchennog pob coeden, myn brain i.
Perchennog hanner y coed dan sylw yw Cyngor Sir Ceredigion, ac mi gafodd pob plaid gerydd swyddogol i dynnu'r cyfriw bosteri lawr neu gael eu bilio am gost eu dinistrio ddiwedd wythnos diwetha. Mae amryw ffordd yn dechrau edrych yn llai oren erbyn hyn.
Hon, gyda llaw, yw'r unig etholaeth yng Nghymru a Lloegr lle nad oes gan Lafur na'r Ceidwadwyr obaith caneri o ennill.
Twt lol botas! Be am ei chymydog Dwyfor Meirion? Be di gobeithion y naill na'r llall acw?
Falle nad hwn yw'r lle i wneud y sylw yma, ond wedi'r cwbl post am Geredigion yw hwn. On i'n methu credu pan wylies i Wales Today o Aberaeron neithiwr. A oedd UNRHYW un o'r rhai holwyd yn y clwb hwylio yn gynrychioliadol o'r etholaeth? Heblaw am adnabod y tai amryliw allen i feddwl bo fi'n gwylio rhaglen o rywle fel Southampton.
Pwynt teg. Roedd y gair "cystadeuol" wedi ei adael allan. Mae gan y DR seddi diogel hefyd, wrth gwrs.
Nage 219 o fwyafrif sydd gan Mark Williams, nid 218? Sori i hollti blew....
Pan glywais i byddai Wales Today yn y "Yacht Club" yn Aberaeron, dyna'n union aeth drwy fy meddwl i. Does bosib bod 'na groesdoriad o bobl i'w cael yn fanna.
Fe awgrymwn fod rhai ohonoch yng Ngheredigion yn gwneud cwyn swyddogol. Saeson yw 35-40% o etholwyr Ceredigion, ac mae'n deg fod eu llais yn cael ei glywed. Ond fe fyddwn yn tybio fod y ganran o Saeson a gyfwelwyd ddoe yn Aberaeron yn llawer, llawer uwch na hynny. A oedd pob un ohonynt yn breswylydd yng Nghymru? Aeth hynny trwy fy meddwl i hefyd.
Dylai fod gan y ´óÏó´«Ã½ ryw fath o ymrywmiad statudol i gydraddoldeb a gwrth-hiliaeth yn hytrach na landio mewn etholaethau amlethnig, ymylol tu hwnt fel Ceredigion a chyfweld un rhan o'r gymuned yn unig, ac yna ddarlledu eu barn am "pension pots" ac ati am hanner awr ar deledu prime time. Beth ar wyneb daear oedd y ´óÏó´«Ã½ yn meddwl eu bod yn ei wneud?
Dwi wedi sylwi fod agwedd y ´óÏó´«Ã½ trwy gyfrwng y Saesneg yn hollol drefedigaethol o ran cyfweld pobl mewn ardaloedd Cymraeg. Bob tro mae rhyw vox pop neu'i gilydd yn cael ei wneud mewn cymunedau Cymraeg, mae nifer y Saeson sy'n cael eu cyfweld yn llawer, llawer uwch na nifer y Saeson sy'n preswylio yn y gymdogaeth. Unwaith eto, ble mae'r polisi cydraddoldeb? On'd oes gan newyddiadurwyr ryw ffurflenni gwrth-hiliaeth i'w llenwi? Yn mynd i Bwllheli heddiw, 80% yn Gymry, 20% yn Saeson - felly cyfweld 3 neu 4 Cymro, ac 1 Sais. 50% o'r boblogaeth yn ferched, 50% yn Saeson - felly cyfweld 2 ddyn a 2 ddynes. Dydi o ddim yn anodd!
Mae'n rhaid i mi gytuno hefo Simon yn fan hyn. Welais i mo'r rhaglen neithiwr, ond dwi wedi sylwi ar y tueddiad ers tro byd. Oes yna ganllawiau? Neu a oes yna agenda?
Mae Seimon yn iawn, rwy'n siwr fod egni a pleidlais gref newydd y Dem Rhyddion yng Ngheredigion, er 2001 dyweder, yn bennaf wedi dod yn sgil gwladychwyr Seisnig sydd wedi ymddeol i Geredigion ac felly ddim yn ystyried pleidleisio i'r Blaid.
Mae'n debyg bod hyn yn dod yn ffactor gynyddol yn Ynys Môn hefyd.
Tybed mewn deg mlynedd a fydd hefyd yn dechrau effeithio ar y bleidlais ym Meirionydd.