Bore yn y Bae
Yn ôl i'r bae felly ac awyrgylch swrrealaidd y Cynulliad sy'n dal i eistedd mewn rhyw fydysawd cyfochrog o harmoni gwleidyddol gyda'r aelodau'n gorfod anwybyddu'r stormydd gwleidyddol o'u cwmpas.
Cynhaliwyd y cynadleddau newyddion wythnosol arferol ond, a bod yn onest, doedd dim lot o gnawd ar yr esgyrn.
Dyna i chi sesiwn y Llywodraeth i ddechrau gyda'r gweinidog busnes Jane Hutt. Eisiau son am y "three E's" oedd y gweinidog. "Efficiency" oedd yr "e" gyntaf ac E-procurement oedd yr ail. Roeddwn wedi colli'r Ewyllys i fyw erbyn y trydydd.
Prin ddeg munud barodd sesiwn Nick Bourne gyda'r arweinydd Ceidwadol yn gwrthod llyncu'r abwyd pan ofynnais iddo a ddylai David Cameron barhau i arwain yr wrthblaid pe bai'n colli ar Fai'r 6ed? Mae Nick wedi bod yn y gêm yma'n rhy hir i gwympo am rywbeth felly!
Y Democratiaid Rhyddfrydol oedd yr olaf i roi eu pennau ar y bloc gan ddefnyddio hiwmor i geisio dadwneud unrhyw niwed ynghylch yr helynt lluniau. Yn y bôn mae'r blaid yn gwybod ei bod wedi bod braidd yn wirion ond doedd hi ddim yn teimlo felly ar y pryd.
Am ryw reswm mae newyddiadurwyr eraill yn meddwl bod gan y ´óÏó´«Ã½ stoc anferthol o luniau twyllodrus eraill o'r Democratiaid Rhyddfrydol.
Pwy yw fi i'w siomi?
Dyma ddwy wningen fechan.
Fi'n addo mai hwn yw'r llun olaf. Mae'n bosib mynd yn rhy bell a'r jôc!
Fe holwyd Kirsty ynghylch polisi'r blaid o ostwng yr oedran pleidleisio i 16. Roedd Kirsty yn frwd o blaid gan ddadlau y dylai 'r rheiny sy'n ddigon hen i weithio, talu trethi ac ymladd dros eu gwlad gael y bleidlais.
Oedd hynny'n golygu y dylai pobol 16 oed gael yr hawl i brynu alcohol a sigaréts, felly? "Dyw hynny ddim yn y maniffesto" oedd yr ateb.
Dyna ni felly mae pobol yn ddigon aeddfed a chyfrifol yn 16 i bleidleisio, gweithio, talu trethi a marw ar faes y gad. Mae prynu peint neu gael mwgyn yn fater arall.
SylwadauAnfon sylw
Os dyma'r gorau y gall Cymru ddod at y Playboy Mansion....!