´óÏó´«Ã½

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Dim Clem

Vaughan Roderick | 10:01, Dydd Sadwrn, 17 Ebrill 2010

_40998345_50_clementdavies.jpg"Byswn i wrth fy modd yn fotio i chi ond fedra i ddim bradychu Clem. Fe fyddai'n troi yn ei fedd!" 1992 oedd yr etholiad, rwy'n meddwl, a Maldwyn oedd yr etholaeth lle wnaeth ymgeisydd aflwyddiannus glywed y geiriau yna gan etholwraig.

Clement Davies oedd "Clem" ac roedd wedi bod yn ei fedd ers deng mlynedd ar hugain pan fynegodd etholwraig Maldwyn ei theyrngarwch iddo. Ef oedd Aelod Seneddol Maldwyn o 1929 hyd ei farwolaeth yn 1962.

Mewn sawl ystyr mae Clem yn ffigwr trasig. Collodd tri o'i bedwar plentyn, yn ei llawn dwf, o fewn cyfnod o ddwy flynedd ac roedd yn byw ei fywyd dan gysgod y botel. Roedd yn ddyn heb fawr o garisma ac ym marn llawer roedd ei drwyn gwleidyddol yn drychinebus.

Pam sôn am Clem? Wel oni bai amdano fe, go brin y byddai'r Democratiaid Rhyddfrydol yn bodoli heddiw.

Yn 1945 cafodd ei ddarbwyllo i fod yn arweinydd "dros dro" ar y Blaid Rhyddfrydol. Doedd e ddim eisiau'r swydd ond doedd gan y blaid neb arall, mewn gwirionedd. Fe gytunodd i afael yn yr awenau am gyfnod byr nes i ryw un fwy abl gael ei ethol i'r senedd i gymryd ei le. Fe barodd y "cyfnod byr" am un mlynedd ar ddeg.

Dau beth a dau beth yn unig sy'n nodweddi ei gyfnod fel arweinydd. Y cyntaf oedd cyfres o etholiadau trychinebus lle bu bron i'r blaid ddiflannu o'r tir. Yr ail oedd ei benderfyniad i wrthod gwahoddiadau mynych Churchill i uno'i blaid a'r Ceidwadwyr. Doedd hyd yn oed y cynnig o sedd yn y cabinet ddim yn ddigon i'w ddarbwyllo i aberthu annibyniaeth plaid yr oedd fe ei hun wedi ei chefni arni am gyfnod yn y tridegau.

Olynwyr Clem wnaeth lwyddo i adfer ychydig o'r mawredd a fu i'r Blaid Ryddfrydol. Ar ddau achlysur, yn 1974 a 1983, mae hi wedi ymddangos fel pe bai ar fin ail-sefydlu ei hun fel prif blaid go iawn. Nawr, y penwythnos hwn, am ychydig ddyddiau o leiaf, mi ydyn ni yn yr un sefyllfa eto.

Amser a ddengys a fydd "sbeic" y Democratiaid Rhyddfrydol yn diflannu cyn gynted ag y daeth hi. Mae 'na ddwy ddadl i fynd, wedi'r cyfan ac mae magnelau'r pleidiau eraill yn cael eu troi'n araf i wynebu ffosydd y Democratiaid Rhyddfrydol.

Serch hynny, fe fyddai Clem yn rhyfeddu o weld y polau. Fe fyddai'n hapus hefyd, rwy'n amau, o glywed sut gwnaeth Nick Clegg ddathlu ei lwyddiant yn y ddadl- gyda gwydred o win coch a sigaret. Jyst fel Clem.

Mae'r frwydr ym Maldwyn wrth gwrs yn un hynod ddiddorol y tro hwn. Fe fydd llawer o raglenni ´óÏó´«Ã½ Cymru "ar daith" yn y Trallwng Ddydd Llun. Galwch draw!

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

´óÏó´«Ã½ iD

Llywio drwy’r ´óÏó´«Ã½

´óÏó´«Ã½ © 2014 Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.