Chwifiwn ein baneri
Fe fyddai dyn yn meddwl y byddai pob plaid yn gweithio'n galed i geisio osgoi cydymffurfio a stereoteip anffodus. Ydy UKIP yn gall felly i drefnu ei lansiad Cymreig mewn Clwb Hwylio?
Oce, dyw blasers yn orfodol ac fe fyddai Clwb Golff yn waeth. Serch hynny...
Gan fy mod wedi crybwyll y Gwyrddion yn gynharach mae'n werth nodi bod UKIP yn bwriadu sefyll ym mhob etholaeth yng Nghymru y tro hwn.
Mae na ambell i stereoteip anffodus arall. O'r 38 darpar ymgeisydd sy'n cael eu rhestri ar y blaid mae 36 yn ddynion. Does na ddim llawer o Gymraeg ar y safle chwaith.
SylwadauAnfon sylw
Os yw UKIP yn sefyll ym mhob sedd Gymreig mae ganddyn nhw hawl felly i fod yn rhan o raglen deledu yr arweinwyr yng Nghymru. Oes gan Blaid Cymru ragor o ymgeiswyr yn rhywle?