Ar yr Amledd Uchel Iawn
Gallaf glywed yr ymateb nawr. "Beth uffern mae Jonsi'n gwneud ar flog Vaughan? Mae'r cythraul y mhob man!"
Darllenwch ymlaen. Chwi gewch esboniad!
Ddeng mlynedd ar hugain yn ôl i ddoe deffrodd trigolion Caerdydd i sain gorsaf radio newydd. Wel, fe wnaeth rhai ohonyn nhw wrando, ta beth, dim digon yn anffodus i sicrhau parhad Cwmni Darlledu Caerdydd.
Serch hynny roedd hi'n ddiwrnod mawr i mi. Roeddwn i'n gweithio yno ac fe drodd y lle yn dipyn o ffatri gynhyrchu darlledwyr Cymraeg. Ymhlith eraill o'r graddedigion mae Sian Lloyd, Gareth Charles ac Ian Gwyn Hughes a... Jonsi.
Un o'r pethau wnaethon ni geisio gwneud oedd trefnu system rwydweithio i gyflenwi newyddion cenedlaethol Cymreig i orsafoedd masnachol eraill Cymru. Y broblem ar y pryd oedd bod y gorsafoedd eu hun yn casglu newyddion lleol yn eu hardaloedd tra'n derbyn ffid o newyddion Prydeinig. Doedd dim modd i "Marcher Sound" neu "GB", er enghraifft, rhoi sylw i straeon Cymreig o bwys o'r tu allan i'w hardaloedd. Trist yw dweud bod y broblem yn bodoli hyd heddiw.
Pe bai cynlluniau Ofcom i sefydlu gwasanaeth newyddion teledu annibynnol i gymryd lle rhaglenni ITV Wales wedi cael eu gwireddu fe fyddai'r broblem wedi eu datrys. Roedd cyflenwi deunydd cenedlaethol Cymreig i orsafoedd lleol a chymunedol yn rhan o'r cynllun.
Oherwydd gwrthwynebiad chwyrn y Ceidwadwyr fe gafodd y cymalau perthnasol eu gollwng o Fesur yr Economi Digidol wythnos ddiwethaf. I raddau felly mae dyfodol newyddiaduraeth a gwasanaethau newyddion Cymru yn dibynnu ar ganlyniad ar etholiad.
Pe bai Llafur yn arwain y llywodraeth nesaf mae'n debyg y byddai cynlluniau Ofcom yn cael eu gwireddu. Mae'n ansicr beth fyddai'n digwydd o dan Lywodraeth Geidwadol.
Dyw sylwadau eu llefarydd, Jeremy Hunt, ynghylch "market-led solutions", llacio'r rheolau ynghylch perchnogaeth y cyfryngau a sefydlu gorsafoedd teledu dinesig ddim o reidrwydd yn swnio'n addas iawn i Gymru.
Mae 'na bynciau pwysicach o lawer yn yr etholiad ond fe fydd hi'n ddiddorol gweld os fydd 'na fwy o eglurder ym Maniffesto Ceidwadwyr Cymru.
SylwadauAnfon sylw
O sôn am ddarlledu, a ydi Ymddiriedolwyr y ´óÏó´«Ã½ wedi ymateb i apêl y Blaid a'r SNP yn erbyn dadl yr 'Arweinwyr' eto? Tydw i ddim wedi clywed dim.
Na finnau. Fe wna i ffeindio mas yn lansiad maniffesto PC yfory.