Anoracia
Dim ond y mwyaf anoracaidd o anoracs fydd yn gyfarwydd ag enw Nate Silver. Ystadegydd chwaraeon Americanaidd yw Nate ac ychydig flynyddoedd yn ôl penderfynodd arbrofi i weld a oedd y dulliau yr oedd yn defnyddio i broffwydo canlyniadau gemau pêl fas yn gweithio mewn gwleidyddiaeth.
Y canlyniad oedd gwefansafle sydd wedi trawsnewid darogan gwleidyddol yn yr Unol Daleithiau. Yn ystod yr etholiad hwn mae Nate wedi troi ei lygaid at Brydain ac yn y bôn mae'n racsio rhai o'r dulliau dadansoddol sy'n cael eu defnyddio gan academyddion a darlledwyr y wlad hon, y ´óÏó´«Ã½ yn eu plith.
Cymerwch y swingomedr fel enghraifft. Mae hwnnw wedi bod yn rhan o bob noson etholiad ers i Bob MacKensie afael yn ei gardfwrdd a thap selo yn ôl y pumdegau.
Mae pawb yn ymwybodol nad yw'r hen gyfaill wedi gweithio'n iawn ers y saithdegau. Etholiad 1970 oedd yr olaf mewn gwirionedd lle cafwyd ornest dwy blaid heb fawr o wahaniaethau rhanbarthol. Yn y naw etholiad ers hynny mae'r teclyn, neu fersiwn gyfrifiadurol ohono, wedi ei ddefnyddio i broffwydo canlyniadau gornestau o fath gwbl wahanol i'r rhai y cynlluniwyd ef ar eu cyfer.
Mae teclyn i broffwydo'r canlyniad ar sail yr "Uniform National Swing" i'w gweld ar bron bob un gwefan newyddiadurol. Y gwir amdani, yn ôl Nate, yw bod y peth yn nonsens pur. Yn wir, mae'n tynnu sylw at y ffaith bod rhai o'r modelau yn caniatáu i Lafur, er enghraifft, golli 100% o'i phleidleisiau tra'n ennill 40 sedd!
Nawr dyw e ddim yn bryd eto o ddatgelu'n danteithion fydd 'da ni ar eich cyfer ar y noson fawr ond fe fydd pethau'n wahanol y tro hwn. Pwynt arall sy gen i heddiw.
Mae 'ma rhyw gred gyffredinol o gwmpas bod senedd grog yn anorfod. Rwy'n anghytuno. Gyda gogwydd anghyson, ansicrwydd ynghylch pwy fydd yn troi allan i bleidleisio a llwyth o seddi y bydd hi'n bosib eu hennill gydag oddeutu traean o'r pleidleisiau mae'n ddigon posib y bydd 'na lywodraeth fwyafrifol. Gallai'r mwyafrif hwnnw hyd yn oed fod yn un cysurus.
Gydag wythnos i fynd mae'n rhy gynnar i ddweud. A dyna'r i chi'r tro cyntaf i mi sgwennu'r geiriau hynny ers 1992!
SylwadauAnfon sylw
Dwi'n cytuno gyda'ch pwynt olaf. Ar hyn o bryd mae'r polau opiniwn yn dangos Llafur lawr tua un pumed o'i pleidlais. Gyda'r math yn o gostyngiad fe all Llafur colli llawer mwy o seddi yn enwedig os symudith y pleilais i un plaid yn arbenig. Fe all y Blaid Lafur colli tipyn fwy o seddi na mae'r polau opiniwn yn darogan gyda'r Ceidwadwyr yn ennil tipyn yn fwy. Felly dydy senedd grog ddim yn anorfod.
wyt ti newydd ddarogan mwyafrif cysurus i'r ceidwadwyr, vaughan??
Nac ydw! Rwy'n dewis fy ngeiriau'n ofalus. Dweud yds nad yw senedd grog yn anorfod a bod mwyafrif cysurus yn bosib.
Mae'r ffin rhwng llwyddiant a methiant yn gallu bod yn dennau iawn ac fe all gogwydd bach wneud gwahaniaeth mawr. Mae nifer fawr o ffactorau eleni sydd yn anodd ei darllen. Peidied anghofio fod nifer fawr o aelodau yn sefyll lawr ymhob plaid. Gall hyn wneud gwahaniaeth gan fod proffil lleol yn gallu fod cyfwerth a % dda o bleidleisiau. Mae'n anodd hefyd pwyso a mesur effaith neu ddiffyg effaith y gogwydd lleol.
Credaf fod heno yn bwysig o ran penderfynu ar faint y fuddugoliaeth neu'r methiant gan y bydd nifer yn penderfynu - unai i aros mewn hen berthynas neu mentro sefydlu perthynas newydd.
Rwy'n cytuno'n llwyr a llawer o hynny. Rwyf wedi dweud o'r cychwyn mai yn y dyddiau olaf y bydd yr etholiad yma'n cael ei benderfynu. Rwy'n meddwl fy mod yn dechrau gweld patrwm yn y sibrydion o bob plaid. Mwy am hynny yfory.
Dwi'n cytuno ac yn gresynu bod sylwebaeth gweddill y ´óÏó´«Ã½ (a'r cyfryngau) wedi bod mor undonog o arwynebol. Mae cymaint yn dibynnu ar gryfder y bleidlais (turnout) ac erbyn hyn, sut benderfynodd y pleidleiswyr post, sydd wedi gwneud eu dewis cyn bod Brown yn tramgwyddo (a dyna stori a wnaed o siwgr eisin gan y cyfryngau) a thra bo Clegg dal i fod ar frig ei don gyntaf. Mae pawb wedi cael eu dargyfeirio gan y Dadleuon, ysywaeth.