Cymariaethau
Go brin fod 'na eiriau sy'n cael eu gorddefnyddio mwy mewn newyddiaduriaeth nac "unigryw" ac "hanesyddol".
Mater i'r haneswyr yw barnu pwysigrwydd hanesyddol unrhyw etholiad ac mae bron pob etholiad yn "unigryw" mewn rhyw ffordd neu'i gilydd. 2005, er enghraifft, oedd y tro cyntaf i Lafur ennill trydydd etholiad o'r bron ond go brin y bydd hwnnw'n cael ei gofio fel "etholiad mawr".
Ar ôl dweud hynny mae'n anodd meddwl am unrhyw etholiad sy'n gymhariaeth hawdd ac un 2010.
Roedd canlyniad 1970, pan etholwyd Ted Heath, yn groes i'r disgwyl yn un agos ond dyw hwnnw ddim yn cymharu mewn gwirionedd. 1970 oedd yr etholiad olaf mewn cyfres yn dyddio yn ôl i 1945 pan oedd Llafur a'r Ceidwadwyr rhyngddyn nhw yn ennill oddeutu nawdeg y cant o'r bleidlais. Dim ond yn 1974 y dechreuodd y drefn amlbleidiol bresennol amlygu ei hun. Yn y cyd-destun hwnnw mae'n werth nodi un ystadegyn difyr. Enillodd Llafur 43.1% o'r pleidleisiau yn 1970 a cholli. Yn 2005 roedd 36% yn ddigon i sicrhau mwyafrif o hanner cant.
Chwefror 1974 oedd y tro diwethaf i senedd grog gael eu hethol ond yn wahanol i eleni doedd neb, mewn gwirionedd, wedi rhagweld hynny. Gyda dim ond rhyw ddeg ar hugain o aelodau'r pleidiau llai yn NhÅ·'r Cyffredin roedd pawb yn disgwyl y byddai'r naill blaid fawr neu'r llall yn sicrhau mwyafrif. Wedi'r cyfan, i hynny beidio digwydd fe fyddai angen i Lafur a'r Ceidwadwyr fod bron yn union gydradd. Dyna beth ddigwyddodd, wrth gwrs, ond gyda dim ond gogwydd bach ei angen i sicrhau mwyafrif y naill ffordd neu'r llall yr ateb oedd cynnal ail etholiad o fewn byr o dro. Mae hynny'n llai tebygol pe bai na senedd grog y tro hwn oherwydd niferoedd tebygol y pleidiau llai.
Ymlaen a ni at 1992. Hon yw'r gymhariaeth orau yn fy marn i. Roedd llywodraeth amhoblogaidd yn wynebu gwrthblaid hyderus ar ôl 14 blwyddyn mewn grym. Y drwg yn y caws i'r wrthblaid oedd amheuon y cyhoedd ynghylch ei harweinydd ifanc carismataidd.
Fe gafodd yr amheuon hynny ynghylch Neil Kinnock eu crisialu yn nyddiau olaf yr ymgyrch ac mae 'na le i gredu mai yn y dyddiau olaf y bydd yr etholiad hwn yn cael ei benderfynu hefyd.
Yn ôl yn 2005 pleidleisiodd rhyw 40% o'r etholwyr i'r pleidiau llai ac roedd y rhan fwyaf o'r pleidleisiau hynny i bleidiau ar y chwith sef y Democratiaid Rhyddfrydol, Plaid Cymru a'r SNP, Y Gwyrddion a Respect. Y cwestiwn yn 2010 yw a fydd rhai o'r etholwyr hynny yn fodlon achub Llafur neu sicrhau senedd grog neu ydyn nhw wedi cael digon o lond bol ar y llywodraeth i adael iddi suddo.
Ar drothwy'r etholiad y bydd y penderfyniad hwnnw'n cael ei wneud, fe dybiwn i.
O gofio 1992 mae'n werth nodi hefyd bod sawl Ceidwadwr yn meddwl mai ennill yr etholiad hwnnw oedd y peth gwaethaf wnaeth ddigwydd i'r blaid. Yn ôl y ddamcaniaeth hon pe bai Neil Kinnock wedi ei ethol fe fyddai Llafur wedi wynebu union yr un problemau a'r ERM wnaeth arwain at "Black Wednesday" a chyda "anallu Llafur i reoli'r economi" wedi cadarnhau ym meddyliau'r etholwyr fe fyddai'r Torïaid wedi bod yn ôl yn rhif deg mewn byr o dro. Dim ond dweud.
SylwadauAnfon sylw
Ie, diddorol cymharu, onid yw? Yn 1992, wrth gwrs, Cymro gyda phapurau newydd y "Sun", Express, Mail ac ati yn ei erbyn oedd yr arweinydd carismataidd ifanc. Y tro yma, aelod o'r sefydliad Seisnig gyda'r "Sun" ac ati o'i blaid. Ta waeth, rwyf yn siwr bod rhai yn Llafur yn meddwl am y manteision bod allan o rym am un tymor gan adael i'r Toriaid orfod gwneud y toriadau amhobolgaidd.