Post Prynhawn
Mae heddiw wedi bod yn ddiwrnod prysur! Rhyw bost wrth fynd heibio yw hwn felly i grynhoi ambell i stori.
Brwydr y taflenni oedd hanfod yr ymgiprys heddiw gyda'r Ceidwadwyr yn cyhuddo Llafur o balu celwyddau ar y taflenni. Rhagor am hynny ar flog David a chewch ddarganfod pam y mae'r Democratiaid wedi bod yn chwarae doctyrs a nyrsys ar flog Betsan.
Cewch glywed Betsan a finnau'r cloriannu'r ymgyrch trwy wrando ar y podlediad sydd hefyd yn cynnwys rhifyn yr wythnos o "Dau o'r Bae". Paul Davies, Dafydd Trystan Mark Cole a Nia Griffith yw'r gwesteion.
SylwadauAnfon sylw
Cwestiwn sydd gennyf. Oes modd gael gwybodaeth am ddulliau samplo'r arolygon barn. Oes canllaw ar beth sydd yn cael ei ystyried yn dderbyniol ac anerbyniol i'w gyhoeddi /ail adrodd ar y ´óÏó´«Ã½. Efallai mai cyd-digwyddiad yw hyn ond mae llawer o'r arolygon barn sy'n cael eu comisiynu gan y wasg Doriaddd yn rhoi pleidlais uwch i'r Toriaid - maent fel arfer rhwng 1-3% yn uwch na'r arolgyon eraill. Gan bod margin of error o 3-5% maent o fewn ffiniau ond mae'n ddiddorol. Byddwn yn hoffi dadansoddi rhai o'r dulliau samplo.
Mae'r rhan fwyaf o gwmnïau yn cyhoeddi manylion y dechneg, y sampl ac yn bwysicaf oll y "weighting" (hy y broses o gymhwyso yr ystadegau crau er mwyn adlewyrchu yr etholwyr yn eu cyfanrwydd) ar eu gwefannau. Mae 'na ambell i gwmni sy ddim ac mae'r rheini yn tueddu cael eu diystyru. Mae canllawiau'r ´óÏó´«Ã½ ar ein gwefan- yn rhywle! Y gwefan gorau y gwn i amdano am ddadansoddi anoracaidd yw "UK Polling Report" Mae 'na stwff da hefyd ar y gwefan Americanaidd