Paentio'r byd yn goch...
Mae Nick Bourne newydd ryddhau datganiad yn galw am adfer y slogan "Cofiwch Dryweryn" yng Ngheredigion oedd wedi cael ei difrodi'n ddiweddar.
Dyma sydd gan Nick i ddweud "Mae'r slogan o'r pwys hanesyddol mwyaf ac yn eicon nid yn unig i Geredigion ond i Gymru gyfan."
Mae 'na ryw wers fach yn fan hyn ynghylch y ffordd y mae olion brwydrau'r gorffennol yn hwyr neu'n hwyrach yn troi'n eiddo i bawb.
Ond does dim rhai i Nick boeni. Fel mae'r llun yn dangos mae'r peth eisoes wedi ei sortio!
SylwadauAnfon sylw
a dwi'n fodlon betio nad tori nath y paentio...
Wi ddim yn credu bo hwnna jobyn cystlad a 'ny odi ddi?
Ma'r llythrennau unigol yn edrych yn salw ofnadw - does wbod pwy 'font' oen nhw'n iwso.
O ran tafod y ddraig - tafod digon llipa yw e ontefe.
4 mas o 10 'swn i'n rhoi iddi
Ma isha i rwyn fynd nol drosti to!
falle mai tori nath y paentio wedi'r cyfan te, ceri...
Wedi bod yn chwarae gyda'r cyfrifydd seddi a chael chanlyniadau eithaf diddorol
Er mwyn cael 165 o seddi fe fyddai yn rhai i'r Lib Dems gael 35% o'r bleidlias.
Fe allai Llafur gael 165 o seddi gyda 21.5% o'r bleidlais.
Tra byddai'r Toriaid yn gallu cael 291 o seddi gyda 35% o'r bleidlais.
Sut ar y ddaear mae modd disgrifio y system yma fel mam democratiaeth ?
Mynd trwy Ceredigion bore ma ar y ffordd i ffeinal cwpan Cymru- mae'r paent yn rhedeg yn barod . Angen undercoat tro nesaf !