Pwys o gnawd
Os oeddech chi'n gwylio sianel newyddion y ´óÏó´«Ã½ neu "Sky News" y prynhawn yma efallai eich bod wedi sylwi bod y ddwy wedi darlledu cynhadledd newyddion Plaid Cymru yn fyw. Hwn yw'r tro cyntaf i hynny ddigwydd mewn etholiad cyffredinol i'n nghof i.
Does dim angen bod yn athrylith i wybod pam y darlledwyd y gynhadledd. Mae'r ´óÏó´«Ã½ a Sky fel eui gilydd yn hynod o sensitif ynghylch y sylw y mae'r pleidiau sydd wedi eu cau allan o'r dadleuon teledu yn cael. Gallwch ddisgwyl rhagor o sylw tebyg yn ystod yr wythnosau i ddod.
Mae Plaid Cymru a'r SNP wedi ysgrifennu'n swyddogol at ymddiriedolaeth y ´óÏó´«Ã½ ynghylch y dadleuon. Ni dderbyniwyd ateb hyd yma a theg synhwyro bod panjandrums yr ymddiriedolaeth yn ceisio gwneud popeth posib i sicrhau nad yw eu penderfyniad yn cael ei wyrdroi gan arolwg barnwrol.
Yn y cyfamser gall Plaid Cymru ddisgwyl mwy o sylw ar ein sgriniau teledu nac mewn unrhyw etholiad o'r blaen. Mae p'un ai ydy hynny'n ddigon i dawelu dicter y blaid ynghylch trefniadau'r rhaglenni dadlau ai peidio yn fater arall.
SylwadauAnfon sylw
Tydi hi ddim yn argoeli'n dda. Cafwydd rhaglen awr gan griw The World at One heddiw; dim on tamaid glywais i cofiwch! Ychydig funudau yn unig a roddwyd i lefarydd yr SNP ar ddiwedd y rhaglen i roi safbwyntiau'r SNP a'r Blaid gyda'i gilydd. A thydw i ddim yn meddwl fod Martha Kearny'n sylweddoli ei fod o am wneud hynny, yn ôl ei chwestiynau! O diar.
'Yn y cyfamser gall Plaid Cymru ddisgwyl mwy o sylw ar ein sgriniau teledu nac mewn unrhyw etholiad o'r blaen'
Credaf hynny pan y gwelaf.
Prin iawn y gwelsom y Blaid ar ein sgriniau yn y gorffennol. Peth peryglus iawn yw diystyru mudiadau gwleidyddol cyfreithlon yn y cyfryngau. Mae'n hollol wrth-ddemocrataidd and yn gwbl anheg. Yn waeth byth, gall eithafiaeth ddilyn.
Gwaetha'r modd, dyna natur y gyfundrefn yn y Deyrnas Unedig. Beth arall allwn ddisgwyl oddiwrth y ´óÏó´«Ã½, corfforaeth sy'n cael ei rhedeg gan y Sefydliad Brydeinig?
Oedd Plaid Cymru yn gwybod eu bod nhw yn cael eu darlledu'n fyw? Os oedden nhw'n ymwybodol o hynny, efallai fydde nhw wedi ceisio gwneud job ychydig yn fwy proffesiynol ohono (cael podium addas neu leoliad tu allan gyda criw o gefnogwyr, fel gwnaeth yr SNP). A pam mai aelodau'r Cynulliad oedd yn y gynhadledd newyddion yma pan mai etholiad San Steffan yw hwn?