Dafydd a Jonathan
Un o'r pethau sy'n digwydd bob tro mae llywodraeth yn newid yw ymgais gan y tîm newydd i fframio'r ddadl wleidyddol o'u blaenau. Mae argraffiadau cynnar yr etholwyr yn bwysig hyd yn oed os oes 'na bum mlynedd tan yr etholiad nesaf.
Un agwedd o hynny yw llwytho cymaint o'r bai ac sy'n bosib am drafferthion i ddod ar ysgwyddau eu rhagflaenwyr. Does dim byd arbennig o newydd yn hynny. Yn ôl yn chwedegau roedd Harold Wilson byth a hefyd yn son am y "thirteen years of Tory mis-rule" oedd, wrth reswm, yn gyfrifol am greu pob un broblem yr oedd yn wynebu'r llywodraeth Lafur.
Dyw'r llywodraeth newydd yn San Steffan yn ddim gwahanol, dybiwn i. Mae unrhyw un sy'n credu bod straeon megis nodyn cellweirus Liam Byrne a chwynion gweision sifil am benderfyniadau gwariant Llafur wedi dod i'r wyneb trwy hap, damwain neu newyddiaduraeth benigamp yn naïf braidd!
Brawd mogu yw tagu ac mae gwrthbleidiau newydd yn ceisio eu gorau i fframio'r ddadl hefyd gan chwilio am fannau gwan y tîm newydd. Mae'n ymddangos bod Llafur Cymru yn meddwl bod Cheryl Gillan yn un o'r mannau gwan hynny.
Fe wnes i sgwennu ddoe, ac mae Betsan yn mynd i gryn fanylder heddiw, ynghylch ymdrechion gan rai i feio'r Ysgrifennydd Gwladol newydd am broblemau gydag amseriad refferendwm ynghylch cynyddu pwerau'r Cynulliad. Does ond angen darllen yr hyn sydd gan Betsan i ddweud i ddeall nad Mrs Gillan sydd wedi achosi'r broblem.
Ond nid dyna'r unig ymosodiad mae Cheryl Gillan yn wynebu ar hyn o bryd. Y llall yw'r honiad ei bod ond wedi cael y swydd oherwydd ei bod hi'n fenyw. "Bysai Gerald Gillan byth wedi cael y jobyn" medd un ffynhonnell. "Fe fydd Jonathan Evans yn cymryd ei lle mewn chwe mis" medd un arall.
Mae enw Jonathan Evans yn codi bron bob tro y mae penodiad Cheryl Gillan yn cael ei drafod. Yn wir roedd ambell i newyddiadurwr (nid rhai'r ´óÏó´«Ã½) yn proffwydo'n hyderus mai aelod newydd Gogledd Caerdydd fyddai'n cael y swydd. Doedd hynny erioed yn mynd i ddigwydd- ac nid oherwydd bod Jonathan yn ddyn a Cheryl yn fenyw.
Mae'n hawdd anghofio'r dyddiau hyn cyn gryfed yw teimladau aelodau seneddol Ceidwadol ynghylch Ewrop yn enwedig yr aelodau asgell dde hynny sy'n amheus am brosiect foderneiddio David Cameron.
Darn o gig coch amrwd i'r garfan honno oedd addewid David Cameron yn ystod ei ymgyrch am yr arweinyddiaeth i dynnu Torïaid Senedd Ewrop allan o grŵp yr EPP- y brif garfan asgell dde ym Mrwsel a Strasbwrg.
Mae Jonathan yn gyn aelod o Senedd Ewrop, yn wir mae'n arweinydd y grŵp Ceidwadol yno. Beth tybed oedd ei farn ynghylch cynlluniau David Cameron?
Roedd yn eu gwrthwynebu'r nhw'n ffyrnig ac yn gwneud popeth o fewn ei allu i'w rhwystro. Yn 2006, er enghraifft, arwyddodd Jonathan lythyr i'r Times yn dweud hyn
"We believe in seeking out where the real action is, rather than fleeing to the margins. We believe that, to be a credible alternative government, Conservatives need to work with EU centre-Right colleagues whose parties are already in government. We believe that, in the EU, just as in Britain, the Left is the main enemy - and that when the Right is divided, the Left prevails."
Nawr atebwch gwestiwn i fi. Ar adeg lle'r oedd yn rhaid i David Cameron leddfu ofnau'r dde ynghylch clymbleidio a'r Democratiaid Rhyddfrydol beth fyddai effaith penodi rhyw un a safbwyntiau felly i'r Cabinet?
Doedd y peth ddim yn mynd i ddigwydd. Byth bythoedd.
Roedd gan David Davies well siawns!