Clyma fy nghangarŵ lawr, sbort...
Fe ddown ni at wleidyddiaeth yn y man!
Cyn hynny rwyf am sôn am gyfeillion i mi yn Adelaide, Awstralia sy'n rhedeg teganau a swfenîrs. Os ydych chi'n prynu koala neu gangarŵ yn Alice Springs neu Darwin y tebygrwydd yw mai yn Tsiena y cafodd ei wneud ac mai cwmni Peter ac Alex wnaeth ei fewnforio.
Dod yn weddol o hwyr i fyd busnes wnaeth y ddau. Ar un adeg roeddent yn ddynion reit bwysig mewn gwleidyddiaeth. Roedd y naill yn weithiwr llawn amser i arweinydd eu plaid a'r llall yn eistedd ar ei phwyllgor gwaith cenedlaethol.
Dyw'r blaid honno ddim yn bodoli bellach ond am ryw ugain mlynedd roedd ganddi rôl bwysig yng ngwleidyddiaeth Awstralia. Yr "Australian Democrats" oedd ei henw. Hi oedd trydedd blaid y wlad ac roedd hi'n chwaer blaid i'r Democratiaid Rhyddfrydol.
Trwy gydol ei hanes methodd y blaid ac ennill sedd yn NhÅ·'r Cynrychiolwyr yn Canberra. Fe'i caewyd hi allan gan gyfundrefn "bleidlais amgen" ddigon tebyg i'r un mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn dymuno gweld yn cael ei chyflwyno ym Mhrydain! Nid dyna yw pwynt y post yma!
Roedd y Democratiaid yn rym go iawn mewn rhai o'r taleithiau ac yn amlach na pheidio roedd y blaid yn dal y fantol yn y Senedd, siambr uchaf Awstralia, sydd gan amlaf yn grog. Roedd hynny'n fendith ac yn felltith i'r blaid.
Roedd tranc y blaid yn broses hir a chymhleth ond fe gychwynnodd gyda'r arweinydd ar y pryd, Meg Lees (yr un yr oedd fy nghyfaill yn gweithio iddi) yn wynebu penderfyniad anodd.
Roedd Llywodraeth geidwadol newydd ei hethol ac yn benderfynol o gyflwyno treth newydd y "GST" (digon tebyg i TAW) er mwyn lleihau'r ddyled genedlaethol oedd yn bryderus o uchel.
Roedd gan y dde (sef, yn achos Awstralia, y Rhyddfrydwyr a'r Blaid Genedlaethol) y niferoedd yn y siambr isaf i gael ei ffordd. Y broblem oedd y Senedd lle'r oedd angen cefnogaeth y Democratiaid, plaid oedd wedi gwrthwynebu'r GST yn yr etholiad, er mwyn ei chyflwyno.
Ar ôl ambell i gonsesiwn fe gytunodd Meg i roi rhwydd hynt i'r mesur "er lles y wlad" a chan "roi buddiannau cenedlaethol o flaen buddiannau plaid".
I ddechrau fe frathodd aelodau'r blaid yn Canberra ac ar lawr gwlad eu tafodau. Ond dim ond am gyfnod y mae rhwygiadau dyfnion yn gallu cael eu celu. Yn y diwedd fe drodd y sefyllfa'n rhyfel agored i ddechrau, yna'n ffars wnaeth ladd hygrededd y blaid ac yna'r blaid ei hun.
Dydw i ddim yn dweud bod yr un peth yn debyg o ddigwydd i'r Democratiaid Rhyddfrydol ond rwy'n synhwyro bod yr anhapusrwydd ynghylch sefyllfa'r blaid ymhlith ei haelodau llawer yn fwy nac mae'n ymddangos ar y wyneb. Os ydy etholiadau flwyddyn nesaf yn troi allan yn wael i'r blaid mae'n ddigon posib y bydd yr anniddigrwydd hynny'n cynyddu.
Fe fydd pobol sy'n cofio genedigaeth plaid y Democratiaid Rhyddfrydol a Chymdeithasol yn gwybod bod pethau'n gallu troi'n gas iawn yn y blaid felen pan mae pethau'n mynd o'i le. Ydy e'n gyd-ddigwyddiad fod Charle Kennedy yn ceisio rhoi hyd braich rhyngddo'i hun a'r cytundeb? Ai Charles yw'r Lloyd George y tro hwn?
SylwadauAnfon sylw
Fe'i caewyd hi allan gan gyfundrefn "bleidlais amgen" ddigon tebyg i'r un mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn dymuno gweld yn cael ei chyflwyno ym Mhrydain!
I fod yn hollol gywir -- STV yw'r system mae'r DemRhydd yn ffafrio ond pleidlais amgen yw'r unig gynnig gan Lafur neu'r Torïaid