Fe fydd hon yn brifo
Rwy'n amau mai Llafur sy'n gyfrifol am y fideo yma.
Mae'n amlwg bod y blaid wedi dysgu ambell i wers ynghylch y defnydd o YouTube ers yr enwog Delilah!
Gyda llaw, mae Llafur yn San Steffan newydd gyhoeddi ei thim cyfiawnder. Dyma nhw
Jack Straw AS
Maria Eagle AS
Helen Jones AS a...
Arglwydd (Willy) Bach.
SylwadauAnfon sylw
C'mon Vaughan, jingositiaeth gwrth-Doraidd diflas Llafur yw hyn. Dwi ddim yn LibDem ond beth oedd Kirsty fod gwneud - anwybyddu Ysgrifennydd newydd Cymru?!
Llafur ddaeth â pholisiau macro economaidd Toriaidd i ni a achosodd y gyflafan economaidd yma yn y lle cyntaf.
Oh, ac o leiaf mae'r LibDems yn cefnogi addysg Gymraeg yng Nghaerdydd.
Diflas.