Mae ynys ym Marri
Ych a fi! Onid yw'r pennawd yna'n ofnadwy! Gwarthus! Gwaradwyddus! Cerwch i gefn y dosbarth, Vaughan, a sgwennwch gant o linellau erbyn bore fory.
"Y Barri" nid "Barri" sy'n gywir wrth gwrs. Yn yr un modd, ar y ffordd i'r Fflint y bu farw'r hen asyn nid ar y ffordd i Fflint. Eto i gyd "Barry Barri" a "Flint Fflint" sy'n ymddangos ar arwyddion ffyrdd. Mae'r naill yn swnio fel clefyd egsotig ac fe ddwedodd A.A Gill hyn am y llall; "Flint, Fflint, so bad they named it twice!".
Adroddiad Pwyllgor Bowen ynghylch arwyddion dwyieithog sy'n gyfrifol am y ddau erchyll-beth er nad dyna oedd y bwriad.
Pan gyhoeddwyd adroddiad y pwyllgor yn 1972 ymhlith yr argymhellion roedd un yn ymwneud â llefydd lle'r oedd yr enwau Cymraeg a Saesneg yn debyg iawn i'w gilydd. Awgrymodd y dylid rhoi'r hawl i gynghorau ddewis pa sillafiad i ddefnyddio gan ddewis y fersiwn Gymraeg, yr un Saesneg neu gyfaddawd rhwng y ddwy.
O ganlyniad diflannodd enwau fel "Portmadoc" a "Carnarvon" ac fe gafodd y Dyniadon Ynfyd ysbrydoliaeth am gân ynghylch sillafiad Cric(c)ieth!
Enwau cyfaddawd oedd "Barri" a "Fflint" i fod. Yn y ddau achos mabwysiadwyd y sillafiad Cymraeg ond heb y fannod. Doedd hynny ddim yn plesio yn y ddwy dref a chafwyd protestiadau lleol ynghylch colli enw Saesneg. O ganlyniad, penderfynwyd mai arwyddion dwyieithog fyddai orau. Am resymau nad wyf yn gallu eu darganfod gosodwyd yr enw Saesneg a'r enw cyfaddawd ar yr arwyddion yn hytrach na'r un Saesneg a'r un Cymraeg.
Fe fyddai'n ddigon hawdd cywiro'r sefyllfa y tro nesaf y mae arwyddion newydd yn cael eu codi. E-bost gan y gweinidog yw'r cyfan sydd angen, dybiwn i. Beth amdani, Ieuan?
Efallai eich bod yn ceisio dyfalu pam fy mod yn blogio ynghylch hyn heddiw.
Esgus yw hi mewn gwirionedd i nodi digwyddiad heb godi crachen ar hen glwyf. Fe fydd darllenwyr hir dymor yn cofio'r storom flogio yn ôl yn yr hydref ynghylch penderfyniad y Comisiwn i roi'r gorau i gyfieithu o'r Saesneg i'r Gymraeg yn y cofnod.
O ganlyniad i'r ffrwgwd penderfynwyd cynnal arolwg o bolisi iaith y cynulliad. Roedd canlyniadau'r arolwg i fod i gael eu cyhoeddi cyn diwedd mis Ionawr. I fod yn deg roedd yr amserlen hynny yn hurt o dynn. Fe fydd y comisiwn yn ystyried yr argymhellion yn eu cyfarfod nesaf.
SylwadauAnfon sylw
I fynd nol at y busnes etholiad 2015 Llundain ar yr un diwrnod ag un Cymru a'r Alban. a fydd y ´óÏó´«Ã½ yn cynnwys arweinydd yr SNP a Phlaid Cymru ar bob cyfweliad a thrafodaeth?! Gallem fod mewn sefyllfa o fod ganddom 3 gwahanol gweinidog o 3 gwahanol senedd a 3 gwahanol blaid yn ateb cwestiwn ar addysg, iechyd etc.
Ffars! Roeddwn i'n meddwl fod y LibDems o blaid democratiaeth lleol. Mae'n amlwg eu bod am ddiraddio hunaniaeth Cymru a'r Alban fel ei fod ond yn atodiad o Loegr.
Dwi hefyd yn meddwl mai'r Toriaid fydd yn enill yn 2015 gan fydd y cylch economaidd wedi troi. Newyddion drwg i lafur yng Nghymru hefyd tybiwn i.
Hmmm...
Tymbl a Tumble
Wrecsam a Wrexham
Caerffili a Caerphilly
Llanisien a Llanishen
Ty'd 'laen Ieaun!
Mae'r fannod yn ymddangos ar arwydd y Tymbl.
"Y Tymbl
Tumble"