Bwrw'r bwl
Rwyf wedi dweud hyd syrffed pa mor anodd yw hi i broffwydo canlyniad yr etholiad yma.
Ar y llaw arall fedra i ddim osgoi rhoi fy mhen ar y bloc yn gyfan gwbwl. Nid proffwydoliaethau sy gen i yn y post yma ond cipolwg bach ar sut mae 'r pleidiau'n gwneud yn eu seddi targed a sut mae eu rhestrau targedau wedi newid yn ystod yr ymgyrch.
Fe wnawn ni gychwyn gyda'r hawsaf sef rhestr dargedau'r blaid Lafur. Dyma hi. Blaenau Gwent. Mae Llafur yn hyderus yno ond dim ond ffŵl fyddai'n proffwydo'r canlyniad.
Digon byr yw rhestr dargedau'r Democratiaid Rhyddfrydol hefyd. Gorllewin Abertawe a Dwyrain Casnewydd yw'r targedau- yn y drefn yna.
Mae'n anodd gweld y blaid yn mynd ymhellach na hynny. Cyn i neb feddwl bod hynny'n gynhaeaf digon pitw mae'n werth cofio bod 'na ddarogan ar ddechrau'r ymgyrch y gallai'r blaid golli tair o'u pedair sedd. Fe fyddai cynyddu'r nifer yn dipyn o gamp.
Mae'n debyg mai Ceredigion, Ynys Môn ac yna Llanelli/Aberconwy oedd rhestr dargedau Plaid Cymru ar ddechrau'r ymgyrch. Ynys Môn mae'n debyg yw'r mwyaf enilladwy erbyn hyn. Mae rhai o fewn y blaid hyd yn oed yn darogan bod Llanelli yn well bet na Cheredigion oherwydd y cynnydd cyffredinol yn y gefnogaeth i'r Democratiaid Rhyddfrydol.
O safbwynt Aberconwy mae 'na broblem fawr i'r blaid, dybiwn i. Mae popeth yn awgrymu y bydd y canran sy'n bwrw pleidlais yn anarferol o uchel yn yr etholiad yma gan olygu y byddai'n rhaid i Blaid Cymru ychwanegu'n sylweddol at ei phleidlais Cynulliad er mwyn enill. Mae'n anodd gweld hynny'n digwydd.
Am y rheswm hynny rwy'n gosod Aberconwy yn y dosbarth cyntaf o dargedau Ceidwadol ynghyd a Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro, Gogledd Caerdydd a Bro Morgannwg.
Rwy'n tybio bod seddi Powys mwy neu lai wedi diflannu o'r rhestr dargedau erbyn hyn ond mae gan y Torïaid lwyth o dargedau ail ddosbarth. Mae'r rhain yn seddi lle enillodd Llafur 40-50% o'r bleidlais yn 2005 ac oedd yn agos yn etholiad y Cynulliad, llefydd fel Delyn, Dyffryn Clwyd, Gwyr a Gorllewin Casnewydd. Y canlyniad mwyaf tebygol yw bod y Ceidwadwyr yn ennill rhai ohonyn nhw ac yn boddi wrth y lan mewn eraill.
Pe bawn i'n gorfod pigo un sedd i wylio yn y dosbarth yma Gorllewin Caerdydd yw honno, ac nid oherwydd fy mod yn byw yna! Fe fyddai angen gogwydd enfawr o 11% i'r Ceidwadwyr ei chipio ond mewn taflen hynod anarferol mae Kevin Brennan wedi rhybuddio bod 'na "wir beryg" y bydd Llafur yn colli wrth i'r Ceidwadwyr arllwys adnoddau i mewn i'r sedd. I'r Ceidwadwyr a Llafur mae cartref gwleidyddol Rhodri Morgan yn gymaint o sedd droffi ac yw Ceredigion i'r ddwy blaid arall. Mae'n gythraul o frwydr ac fe allai fod yn hynod agos fore Gwener.
SylwadauAnfon sylw
tin gywir o be fin clywed o pobl plaid rhyddfrydol a ceidwadwr a be fin gweld ar y strydoedd yn gorllewin caerdydd mae llafur di mobiliso popeth mae grwpiau enfawr ohonynt o gwmpas treganna tyllgoed a glan yr afon yn llifo pobman mwya tebygol fod y toriaid wedi ennill yn barod
Wyt ti'n selio sylwadau am nifer y pleidleiswyr ar unrhyw arolygon? Dwi yn meddwl y bydd y ganran rhywbeth yn debyg i tro diwethaf. Tydi pawb ddim ar un ddiddordeb a ni mewn gwleidyddiaeth. Mae nifer wedi diflasu ar yr holl beth.
Dwi chwaith ddim mor saff am effaith yr ymchwydd i'r Democratiad yn rhai o'r seddi sydd wedi nodi. Dwi yn meddwl fod y gefnogaeth wedi cyrredd yn agos at ben llanw mewn rhi ohonnynt oherwydd ymgyrchu blaenorol ac y bydd y cynnydd yn fwy gweladwy mewn llefydd eraill lle bod ymgeiswyr credadwy.
Yr her i'r pelidiau bob tro yw cael cefnogwyr allan a'r y diwrnod. Gyda threfniadaeth dda mae modd cynyddu pleidlais yn sylweddol. Y cwestiwn yn y seddi allweddol yw pwy pleidiau sydd gyda'r trefniadaeth orau. Dwi yn tueddi i gytuno gyda Aberconwy oherwydd y newid ffinau yn fwy na dim. Mae Guto wedi bod yn brysur ond fe all hefyd godi gwrychyn pobl rhywbeth fydd yn rhaid iddo fod yn ofalus ohonno os yn llwyddiannus. Dwi yn gweld Mon yn agos ac fe fyddwn i yn fwy parod i fentro ceiniog ar Geredigion a derbyn fod nifer y myfyrwyr sy'n pleidleisi yn isel.
Dwi bellach yn synhwyro fod Llafur am gael trochfa dwi yn disgwyl iddynt ddisgyn i o gwmpas 200 o seddi. Cawn weld.
Mae 'na gystadleuaeth yn adran 'Materion Cymru' ar wefan maes-e.com i ddarogan canlyniadau etholaethau Cymru. Ac mae 'na wobr i'r enillydd. Ewch draw, bawb, i roi cynnig arni. (cofiwch roi cynnig ar y tie-breaker hefyd)
Nid arolwg. Mae ffigyrau'r comisiwn etholiadol ynghylch cofrestru ar y funud olaf yn awgrymu y bydd y bleidlais yn uchel.
A fydd arolwg barn Gymreig gan y ´óÏó´«Ã½ cyn yr etholiad? O ystyried bod y ´óÏó´«Ã½ yn rhoi cymaint o sylw i arolygon barn gweddill y cyfryngau, dwi'n methu gweld pam nad yw'r ´óÏó´«Ã½ yn cynnal arolygon barn ei hunan. Oni bai am y Western Mail, y ´óÏó´«Ã½ yw'r unig gyfrwng cenedlaethol sydd gyda ni yma yng Nghymru, ac felly mae'n bwysig cynnalk arolwg barn Gymreig.
Mae rheolau canolog y ´óÏó´«Ã½ yn ein gwahardd rhag cynnal arolygon ynghylch bwriadau pleidleisio. Mae 'na ddadl y dylai Cymru fod yn eithriad oherwydd y diffyg polio yma. Hyd yma ni fu clustiau i'w chlywed!