Problem Peter
Roeddwn i wedi bwriadu blogio cyn hyn ynghylch problem sy'n wynebu ambell i aelod cynulliad. Problem i aelodau rhanbarthol yw hi ac mae'n deillio o'r cymal hwnnw yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 sy'n gwahardd enwau ymgeiswyr etholaethol rhag cael eu cynnwys ar restr ranbarthol.
Roedd rhai yn y pleidiau eraill yn gweld y cymal hwnnw fel darn bach o sbeit gwleidyddol gan Lafur neu fel tipyn o gig amrwd i ffyddloniaid y blaid honno o leiaf. Mewn gwirionedd mae'n rhaid i'r pleidiau eraill, yn fwyaf arbennig y Ceidwadwyr, ysgwyddo peth o'r cyfrifoldeb.
Y gwir amdani yw bod ambell i aelod rhanbarthol yn y ddau gynulliad cyntaf wedi cysgodi aelodau etholaethol gan leoli eu swyddfeydd a chanolbwyntio'u hymdrechion mewn etholaethau targed. Fe fyddai hi wedi bod yn bosib delio a'r sefyllfa trwy god ymddygiad. Dewisodd Llafur ddeddfwriaeth yn lle hynny.
Mae'r Ceidwadwyr yn bwriadu dileu'r cymal dadleuol ond dyw hynny ddim yn mynd i ddigwydd cyn etholiad 2011. Mae aelodau rhestr yn wynebu'r un broblem ac yn 2007 felly. Rhaid dewis rhwng ceisio am sedd etholaeth fel gwnaeth Helen Mary Jones a Jonathan Morgan y tro diwethaf neu sefyll eto ar y rhestr gyda'r peryg o wynebu'r un ffawd a Glyn Davies a Lisa Francis.
Un sydd wedi gwneud ei benderfyniad yn barod yw Peter Black. Mae Peter yn bwriadu sefyll ar y rhestr eto er bod gan y blaid gyfle eithaf da o gipio Gorllewin Abertawe. Gallai'r fuddugoliaeth honno olygu colli'r sedd restr.
Mae Peter yn esbonio'i resymeg ar ei . Ar yr olwg gyntaf mae ei benderfyniad yn ymddangos yn un egwyddorol sy'n rhoi buddiannau ei blaid yn gyntaf. Mae hynny ond yn wir wrth gwrs os ydych chi o'r farn y byddai Democratiaid Rhyddfrydol Gorllewin Abertawe yn dewis Peter fel ymgeisydd etholaeth. Nid pawb o fewn y blaid sy'n credu hynny.
SylwadauAnfon sylw
... ond beth am sefyllfa Mohammed Ashgar; os yw aelod rhanbarthol yn cael ei ethol o restr plaid benodol, onid yw'n amghymwys, wedyn, i fod yn aelod o'r Cynulliad os ydi e'n gadael y blaid honno? dyw aelodau rhanbarthol ddim yn cael eu hethol fel unigolion - onid oes angen cod ymddygiad ar y mater hyn hefyd - neu, falle, rhywbeth cryfach?
Huw - yr ydych yn codi pwynt digon teg; y ffordd yr wyf yn ei ddeall yw mai aelodau cymryd y llw fel unigolion, a felly dim ond nhw sydd yn medru ymddiswyddo. I ryw raddau mae hwn yn bwynt digon teg: mae'n osgoi i bleidiau i gael gwared ar aelodau sy'n annibynnol eu meddyliau/poenau tin i'r chwipiaid fedru dal eu seddau os ydynt yn pleidileisio'n erbyn llinell y blaid (sydd yn medru newid gydag arweinwyr newydd ac ati). Mae hwn yn symptom arall o pa mor ddiffygiol yw'r drefn ddeuol. Fe fydd llawer gwell cael 22 etholaeth aml-aelod yn seiliedig ar yr awdurdodau unedig, wedi eu hethol gan STV, gyda'r nifer o aelodau'n seiliedig ar siâr yr awdurdodau o boblogaeth Cymru. Fe fydd hwn yn osgoi pobl profiadol fel Glyn Davies yn colli seddi yn sgil ennill etholaethau, angen i aelodau gynrychioli ardaloedd enfawr, ac yn gyfrannol. Fe fydd dal yn bosib i aelodau groesi'r llawr, ond fe fyddant, o leiaf, wedi derbyn mandad personol (a fe fydd modd peidio a phleidleisio drostynt eto).
You could not resist the snide remark at the end, could you Vaughan? As it happens I am fairly confident that if I had sought the Swansea West nomination I would have won it. That is the view of other members too who live and work here and don't reside in the Cardiff Bay bubble with nothing better to do with their time than to brief journalists and create mischief. I am sorry you did not do more research before publishing this remark but I suppose the lack of good journalistic practice on blogs does not just apply to amateurs like me.