Lawr y lein
Roedd llygaid bron pawb ar San Steffan heddiw. Hawdd anghofio felly bod y cynulliad yn eistedd heddiw gyda'r sesiwn gwestiynau wythnosol i'r Prif Weinidog.
Fel mae'n digwydd roedd y sesiwn yn un o'r rhai mwyaf bywiog ers i Carwyn gymryd yr awenau. Os ydych chi eisiau rhagflas o'r ymgyrch Llafur yn etholiad 2011 does ond angen gwrando ar sylwadau Carwyn ynghylch y gyllideb wrth ateb y cwestiwn cyntaf. Fe gewch wneud hynny draw ar "".
Mae ateb Carwyn yn cynnwys un honiad diddorol sef bod ein bod yn gwybod yn sgil y gyllideb bod y Llywodraeth wedi cefni ar y cynlluniau i drydaneiddio'r rheilffordd o Lundain i Abertawe. Fel mae'n digwydd doedd datganiad George Osborne ddim yn cynnwys datganiad i'r perwyl hwnnw. Pan ges i sgwrs a Carwyn roedd e'n mynnu bod y ffaith nad oedd y cynllun wedi ei gynnwys ar restr o gynlluniau isadeiledd yn gyfystyr a'i ddiflaniad.
Mae'n bosib bod Carwyn yn rhoi'r ceffyl o flaen y cart yn fan hyn. Yn ôl y Ceidwadwyr mae'r cynllun o hyd o dan ystyriaeth. Yn wir, llai nac wythnos yn ôl fe ddywedodd y Gweinidog Trafnidiaeth Theresa Villiers hyn mewn ateb i gwestiwn gan Kevin Brennan.
I understand the importance of this issue, including in Wales, but the previous Government, of which he was a member, had 13 years to do this and failed... We support electrification-it was in our manifesto and the coalition agreement-and we will take forward those projects that are affordable in the light of the deficit left to us by the Government of which the hon. Gentleman was a member.
Efallai bod Carwyn yn iawn, ond oes 'na beryg bod y Prif Weinidog yn dewis ildio brwydr yn hytrach na'i hymladd?
Diweddariad; Mae na lein newydd gan Lywodraeth y Cynulliad. Dywi ddim yn sicr ei bod hi'n lein drydabnol ond dyma hi!
"Mae'r Llywodraeth yn siomedig nad yw'r cynllun yn y Gyllideb. Fe fydd y Dirprwy Brif Weinidog yn cwrdd â Gweinidog Trafnidiaeth y Deyrnas Unedig yn y dyfodol agos i gael eglurder ar y mater."
SylwadauAnfon sylw
Am berfformiad gwych gan Carwyn Jones yn ystod y sesiwn gwenstiynau ddoe ar sut i beidio ateb ac ymddangos yn ddihid wrth wneud hynny. Roedd Kirsty Williams fel terrier wrth ofyn beth oedd ymateb y Llyodraeth i adroddiad beirniadol am agweddau o'r Gwasanaeth Iechyd. Ymateb y Prifweinidog oedd gwneud sylwadau digon coeglyd ac osgoi ateb - er i Kirsty Williams ofyn deirgwaith. Siomedig oedd gweld hyn gan ein Prifweinidog - cafwyd darlun gwan ohono ar fater sydd mor bwysig i bawb ohonom. Mae hawl gennym i ddisgwyl mwy o arweiniad a diffuantrwydd gan arweinydd ein gwlad.
Cytuno'n llwyr gyda al. Am y tro cyntaf ers hydoedd fe es i'r Siambr ddoe i glywed cwestiynau'r Prif Weiniodg. Roedd Kirsty yn arbennig o dda a Carwyn yn ymylu ar fod yn sarhaus. Os mai hyn sydd yn wynebu am y 10 mis nesaf tan yr etholiad, a'n gwaeredo!
Beth mae rhywun yn disgwyl o olynydd Rhodri Morgan ?
Etifedd teilwng i draddodiad hirfaith Sosialwyr y De o gynhyrchu malwyr awyr o Brydeinwyr di-sylwedd, di-asgwrn cefn