Pwyll Pwyllgor
Dydw i ddim yn meddwl fy mod wedi crybwyll hyn o'r blaen ond mae Swyddfa ´óÏó´«Ã½ Cymru yn NhÅ· Hywel syth o dan ystafell y Cabinet. Hyd yma rydym wedi gwrthsefyll y demtasiwn i ddal gwydr i'r nenfwd i geisio clywed beth sy'n mynd ymlaen!
Efallai bod fy nghlustiau yn fy nhwyllo ond rwy'n credu fy mod wedi clywed sŵn llestri'n cael eu taflu ac ambell i waedd o ddicter yn dod o'r pumed llawr y bore 'ma.
Tybed oes a wnelo'r stori yn y Scotsman unrhyw beth a hynny?
Os ydy'r papur yn gywir mae Pwyllgorau Dethol Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn bwriadu cynnal archwiliad i weld ydy datganoli wedi delifro ar gyfer pobol y ddwy wlad a'r dalaith.
Mae'n ddigon teg credu y byddai'r llywodraethau datganoledig yn wyllt gacwn pe bai ymchwiliad o'r fath yn cael ei gynnal. Wedi'r cyfan dyw'r llywodraethau ddim yn atebol i San Steffan ond i'w cynulliadau a senedd eu hun.
Coeliwch neu beidio mae Cadeirydd y pwyllgor Dethol Cymreig, David Davies yn llwyr ddeall y sensitifrwydd. Mae David wedi arllwys dŵr oer ar adroddiad y Scotsman gan awgrymu mai dyfodol pontydd Hafren fydd testun ymchwiliad cyntaf y pwyllgor.