Rhywle mae Gwynfor yn gwenu
Mae Cyfarwyddwr Amgueddfa Cymru Michael Houlihan ar fin heglu hi am Seland Newydd i gymryd yr awenau yn yr Amgueddfa Genedlaethol yn Wellington. Roedd ymddiriedolwyr yr Amgueddfa honno wedi chwilio'n bell ac agos am bennaeth newydd gan ddewis Michael Houlihan oherwydd yn eu geiriau nhw "his particular skills in complex cultural and bilingual museum establishment and management."
Neithiwr fe draddododd Michael Houlihanyn yr Amgueddfa ond nid araith "diolch am y cloc a'r cerdyn a phob lwc i chi gyd yn y dyfodol" oedd hon. Roedd ganddo bethau mawr i ddweud ar roedd e'n ddi-flewyn ar dafod wrth eu dweud nhw.
Roedd bwrdwn y neges yn amlwg o'r paragraff cyntaf.
For thousands of years, the story of culture in Wales has been about preservation and protection in the face of many overt and insidious threats; mostly originating in the east! The threats have been military, religious, political, linguistic, social and economic. But, over time, it's worked; a distinctive culture has survived thanks to geography, resistance, persistence and community.
Y frwydr honno i ddiogelu ei hiaith, diwylliant ac arwahanrwydd yw hanfod Cymru yn 么l Michael Houlihan ac mae'n ofni bod gormod o bobol Cymru yn ogystal 芒'u hawdurdodau yn methu sylweddoli hynny.
...there needs to be a more overt recognition, particularly in a time of financial pressure, that what sets Wales apart from, say, Surrey is its culture; that the reason we have an Assembly is because of that unique culture; and that, effectively, culture is Wales and Wales is culture. This should have been a project for the good times; in the bad it becomes essential.
Mae'n hallt ei feirniadaeth o ymdrechion i geisio gwerthu neu "brandio" Cymry ar sail ei thirwedd yn hytrach na'i diwylliant ac mae'n amlwg ei fod wedi digalonni'n llwyr wrth frwydro dros roi portread cywir o Gymru yn 诺yl y Smithsonian yn Washington.
Yn 么l y cyfarwyddwr roedd canllawiau'r Smithsonian yn gwbwl eglur. Roedd yr Amgueddfa Americanaidd am weld portread o ddiwylliant gwerin Cymru trwy gerdd, crefft, celf a dawns. Mewn cyfarfod ar 么l cyfarfod bu'n rhaid i Michael Houlihan wrando ar rai o fawrion Cymru yn dadlau y byddai hynny yn groes i "brand" Cymru fel "gwlad fodern dechnolegol y byddai pobol yn dymuno ymweld 芒 hi a buddsoddi ynddi".
The basic point was being missed; the singular, sometimes unsophisticated, sometimes contemporary but always authentic expression of a small nation's culture can be far more attractive and engaging to the outsider than the marketing messages that make it look indistinguishable from any other western, industrialised complex.
Mae Michael Houlihan yn gwrthgyferbynnu'r ffordd y mae diwylliant a hanes yn rhan hanfodol o ddelwedd ac ap锚l Iwerddon tra bod hanes Cymru yn cael ei hanwybyddu a hyd yn oed ei chelu. Cyfaddefodd nad yw Amgueddfa Cymru'n ddieuog o hynny gyda Sain Ffagan yn cyflwyno darlun "Hollywood" o Gymru nad yw hi erioed wedi bodoli. Dywedodd fod gwir drysorau'r Amgueddfa Werin sef y miloedd o oriau o dapiau o atgofion, straeon a chaneuon gwerin o dan glo yn yr archif.
Hanfod y broblem yn 么l y cyfarwyddwr yw'r ffordd y mae hanes Cymru'n cael ei dysgu yn ein hysgolion. Er cystal newidiadau i'r Cwricwlwm dywedodd fod Hanes Cymru o hyd yn cael ei drin fel atodiad neu'n cael ei ddysgu o bersbectif Seisnig. Awgrymodd fod y Cymry Cymraeg yn tueddu deall hanes Cymru ond bod angen datblygu dealltwriaeth ymhlith y di-Gymraeg.
"the hidden and passionate history of Wales... is more likely to be found in the Welsh language with its shared stories of memories, events and people contributing to preserving a sharp sense of identity, but one which is not effectively articulated in the English language. As a result, those with some responsibility for telling the history of Wales, in the fields of education, heritage and tourism do so in ways that reflect the broad sweep of European and English history rather than... a story that, when taken in the round, is truly distinctive."
Nawr, fel mae'r pennawd yn awgrymu dyw'r dadleuon yma ddim yn newydd ond mae clywed pennaeth Amgueddfa Cymru yn eu cefnogi yn dipyn o ryfeddod.
Mae'r ddarlith yn haeddu llawer mwy o sylw nac mae hi wedi cael hyd yma a gellwch ei darllen yn ei chyfanrwydd yn.
SylwadauAnfon sylw
Diolch Vaughan am roi sylw i'r araith 'ma.
Dwi'n siwr fydde fe'n testun sgwrs ardderchog i'r Blaid Lafur Cymreig a'i 'Summer of Conversation' - yn uniaith Saesneg wrth gwrs!
Gobeithio bydd rhai o'r "mawrion" yn gwrando ar yr araith ffarwel a dyfaru nad oedden nhw wedi talu mwy o sylw i'r dyn pan oedd yn eu cyflogaeth yma yng Nghymru.
Diddorol iawn i Michael Houlihan ddweud mai yn yr iaith Gymraeg mae'r allwedd i ddatgloi ein potensial ddiwylliannol a bod gwersi hanes Cymru yn yr ysgolion di-Gymraeg yn tueddu cael ei adrodd o'r safbwynt Seisnig yn unig.
Weithiau mae'n cymryd rhywun o'r tu fas i roi geiriau i'r hyn mae nifer yn ei gredu.
1. "As a global company with offices in 150 countries and 300,000 employees, the idea of supporting an international prize that focused on the human experience transcending cultural boundaries was, Ms DeSisto explained, a perfect vehicle for what BofAML and its employees were trying to say about the business.
She said: 鈥淚n this way we can foster greater cultural understanding as the world becomes more integrated from a financial and economic point of view 鈥 something we have just faced with the recent global recession. We need to think about greater cultural understanding so that markets can work better, people can prosper and barriers can be knocked down.鈥
Geiriau menyw Banc Merrill Lynch sydd yn cefnogi'r wobr Artes Mundi. (Sylwch ei bod hi ddim yn ddigon da i roi enw Cymraeg neu Wenglish ar y wobr - rhaid bod yr enw yn Lladin!!!). Mae'r wobr yma yn union y fath o lol mae Houlihan yn cyfeirio ati. Wrth gwrs mae'n gr锚t bod y celfyddydau gweledol yn cael sylw yng Nghymru ac wrth gwrs does dim byd mawr yn bod ar waith yr artistiaid sydd yn cymeryd rhan yn y gystadleuaeth. OND mae'r arian yn dod o du fas ac mae'n mynd i rywle arall yn y byd - wastad!!! Cyd-ddigwyddiad pur yw e bod y gystadleuaeth a'r arddangosfa yn digwydd yng Nghaerdydd. Hynny yw, rydyn ni'n delio gyda'r byd busnes ac nid y byd celf fan hyn.
2. Dylai byd celf Cymru elwa mewn rhyw ffordd o'r wobr hon! Edrychwch ar fusnes y gadair ar gyfer yr Eisteddfod eleni. Does neb yn ei thrafod o gwbl. Mae'n edrych fel rhyw brosiect CDT ysgol ond does neb yn dweud hynny. Mae'n amhosibl codi unrhyw fath o drafod am y peth. Dydw i ddim yn siarad am drafod celf go-iawn hyd yn oed, mond dweud pethau fel dydy llyfr agored ddim ar gyfer eich pen-么l ond ar gyfer eich sylw ac mae'n sarhad ar unrhyw wobr lenyddol i awgrymu fel arall.
Felly dyna ni - bob dwy flynedd mae arian prin Artes Mundi 'da ni ar gyfer gwaith celf - beth am ei wario yn w芒r?
Hyh! Nonsens llwyr! Yn le mae'r tren cyflym 'na i Lunden?