Um-geiswyr
O flog daw'r newydd bod Angela Jones-Evans wedi trechu David Melding am yr enwebiad Ceidwadol ym Mro Morgannwg. Mae hynny'n dipyn o sioc. Roedd David yn weddol o hyderus ynghylch cael yr enwebiad ar ôl canfod nad oedd Andrew R.T. Davies nac arweinydd Cyngor y Fro, Gordon Kemp am gynnig eu henwau. Dim ond ar y funud olaf y penderfynodd Angela rhoi cynnig arni gan roi ei henw ymlaen yng Ngorllewin Casnewydd hefyd.
Yn eironig ddigon mae'n bosib mai Andrew RT yw'r un ar ei golled yn fan hyn. Mae rheolau'r Ceidwadwyr yn golygu bod aelodau rhestr sy'n dymuno sefyll eto yn cael ei gosod yn awtomatig ar frig y rhestr. Pe bai David wedi sicrhau'r enwebiad yn y Fro Andrew fyddai ar frig y rhestr. Gyda Angela wedi ei dewis mae'n ddigon posib y bydd Andrew yn ail fel oedd e dro diwethaf. Pe bai Angela'n ennill y sedd etholaethol gallai hynny olygu y byddai gan Andrew fwy o amser i dreulio gyda'i dractor!