Cyfraith Bourne
Ychydig iawn o wleidyddion sy'n llwyddo i sicrhau rhyw fath o anfarwoldeb trwy gael rhywbeth wedi ei henwi ar eu holau. Wellington a'i fŵt, Hore-Belisha a'i oleufa a Joel Barnett a'i fformiwla yw'r enghraifftiau amlwg. Mae'n sicr bod 'na ambell i un arall er bod ymdrechion Kenneth Baker i anfarwoli ei hun trwy'r "Baker Day" wedi mynd i'r gwellt.
Mae llai fyth o bobol yn llwyddo i gael cyfraith wyddonol (neu un sy'n esgus bod yn wyddonol) wedi ei henwi ar ei holau. Mae Newton ac Einstein a chyfreithiau go iawn, wrth gwrs. Dydw i ddim yn gwybod pwy oedd y Murphy wnaeth roi ei enw i "Murphy's Law" ond rwy'n weddol sicr taw nad Paul oedd yn gyfrifol!
Ta beth rwy'n amau bod Nick Bourne wedi anfarwoli ei hun (ar y blog yma o leiaf) gyda'r dyfyniad yma o'i gynhadledd newyddion heddiw;
"There is a clear political connection even if there is no logical one".
Waw! Dyma hi felly, Cyfraith Gyntaf Bourne;
"Nid oes angen cyfiawnhad rhesymegol dros benderfyniad gwleidyddol".
Fe fyddaf yn ei dyfynnu'n helaeth o hyn ymlaen!
Fe fathodd Nick ei gyfraith wrth geisio esbonio polisi Llywodraeth y DU o beidio ag ystyried diwygio fformiwla Barnett tan ar ôl pleidlais gadarnhaol yn y refferendwm ynghylch cynyddu pwerau deddfu'r Cynulliad.
Roedd Gerry Holtham ei hun yn ddirmygus o'r safiad hwnnw'r bore 'ma gan ddweud hyn; "Mae'r cwestiwn o gyllid yn gyfan gwbl ar wahân i'r cwestiwn o bwerau. Does 'na ddim cysylltiad. Dim cysylltiad o gwbl."
Mae anodd dadlau a hynny. Os ydy Cymru'n cael llai na'i haeddiant o safbwynt arian cyhoeddus a'r Alban yn cael mwy mae hynny'n annheg beth bynnag yw'r trefniadau llywodraethol. Roedd hi'n annheg yn nyddiau'r Swyddfa Gymreig, mae'n annheg heddiw ac fe fydd hi'n annheg flwyddyn nesaf beth bynnag yw canlyniad y refferendwm. Diolch byth bod Cyfraith Gyntaf Bourne yno i achub y Torïaid!
Fe fyddai Cyfraith Gyntaf Bourne wedi bod o gymorth i Kirsty Williams heddiw hefyd.
Fe geisiodd Kirsty esbonio pam fod cynnal refferendwm ynghylch y bleidlais amgen ar yr un diwrnod ac etholiad y Cynulliad yn dderbyniol pan oedd y blaid oedd mor ffyrnig yn erbyn refferendwm ynghylch pwerau'r cynulliad ar y dyddiad hwnnw. Gwadodd Kirsty hefyd bod y refferendwm ynghylch y bleidlais amgen yn gosod cynsail ynghylch newidiadau i'r drefn bleidleisio, hynny yw y byddai'n rhaid cael refferendwm cyn cyflwyno STV ar gyfer y Cynulliad, y Senedd neu'r Cynghorau.
I fod yn deg roedd gan Kirsty atebion resymegol i'r ddau gwestiwn ond pa angen rhesymeg pan mae Cyfraith Gyntaf Bourne yn bodoli?
Mae dydd Plaid Y Gyfraith Naturiol wedi gwario o'r diwedd!