Ar lafar gwlad
Trigain mlynedd neu fwy yn ôl swydd gyntaf fu nhad ar ôl gadael coleg oedd gweithio fel athro "cyflwyno'r Gymraeg" yn y rhan hynny o Flaenau Gwent oedd yn Sir Frycheiniog ar y pryd. Sylwch mai "cyflwyno'r Gymraeg" oedd ei waith nid dysgu i'r plant ei siarad!
Serch hynny yn y dyddiau hynny, pan oedd y Gymraeg mwy neu lai'n cael ei hanwybyddu yn ysgolion y de-ddwyrain, roedd yr arbrawf yn un eithaf goleuedig a beiddgar.
Roedd techneg fy nhad yn weddol syml. Wrth fynd o ysgol i ysgol fe fyddai'n arwain y plant ar daith gerdded - rhyw fath o helfa drysor i chwilio am eiriau Cymraeg ar dalcennau capel, beddrodau, enwau strydoedd ac yn y blaen. Roedd disgwyl i'r plant wedyn ddweud neu ddyfalu beth oedd ystyr y geiriau hynny.
Y rhyfeddod i'n nhad oedd bod plant "di-gymraeg" Brynmawr a'r cyffiniau bron yn ddieithriad yn gyfarwydd â channoedd o eiriau Cymraeg ac yn gwybod yn iawn beth oedd eu hystyr ar ôl crafu eu pennau am ychydig.
Yn ei eiriau fe "roedden nhw'n gwybod y geiriau i gyd ond doedd dim clem 'da nhw sut i roi nhw at ei gilydd".
Mae'r ardal wedi gweld llawer o fynd ond ddim llawer o ddod o safbwynt ei phoblogaeth ers hynny a hyd y gwelaf i mae'r gwaddol ieithyddol yn parhau hyd heddiw. Roedd hi'n drawiadol yn angladd y diweddar Peter Law, er enghraifft, bod yr emynau yn rhai Cymraeg ac nad oedd fawr o neb yn syllu ar eu taflenni wrth eu canu.
Efallai oherwydd cyn lleied yn ei siarad dyw hi ddim yn ymddangos ychwaith bod gan drigolion yr ardal y fath o "hang-ups" ynghylch yr iaith sy'n bodoli ymhlith y di-gymraeg weithiau. Mae'n drawiadol mai enwau uniaith Gymraeg sydd ar ddau ysbyty Glyn Ebwy "Ysbyty'r Tri Chwm" ac "Ysbyty Aneurin Beran" ac mai enwau Cymraeg sydd ar y rhan fwyaf o stadau tai newydd sy'n cael eu codi yn sgil ail-agor y rheilffordd.
Neithiwr es i am dros o gwmpas Brynmawr a Beaufort am ddim rheswm mwy nac nad oeddwn i erioed wedi bod iddyn nhw o'r blaen. Mae gan Frynmawr Ysgol Gymraeg erbyn hyn wrth gwrs a braf oedd gweld posteri o gwmpas Beaufort yn hysbysebu'r ysgolion meithrin Cymraeg lleol.
Y ddadl fawr dros yr Eisteddfod deithiol wrth gwrs yw ei bod yn fodd i Gymreigio ardaloedd. Ar y cyfan rwy'n amheus o hynny yn enwedig o weld cyn lleied o Eisteddfodwyr o gwmpas y lle yn y trefi a phentrefi sy'n amgylchynu'r ŵyl.
One efallai bod yr Eisteddfod yma'n eithriad. Mae nifer y di-gymraeg ar y Maes wedi bod yn drawiadol iawn eleni a'u mwynhad a'u balchder lleol yn amlwg. Yn achos Blaenau Gwent mae'n bosib nad "chwistrelliad o Gymreictod" sydd angen ar yr ardal ond procied bach i ddeffro'r iaith o'i thrwmgwsg.