Blwyddyn yng Nghymru Na Fu
![](/staticarchive/adabcfcfca9015a127d0be2c817e979e40617674.jpg)
"Newydd fod yn meddwl beth fyddai ffawd Plaid Cymru heddiw petai clymblaid enfys wedi ei ffurfio gyda'r Torïaid a'r Democratiaid Rhyddfrydol ar ôl etholiadau cynulliad diwethaf. A fyddent yn debygol o fod yn cael gwrandawiad gwell i'r achos yn erbyn y toriadau ? Digon annhebyg. A fyddent yn fwy o gocyn hitio ar gyfer yr etholiad nesaf ? A ydynt rŵan mewn sefyllfa gryfach gan y gellir ymosod yn ddiffuant ar y toriadau pan fyddant yn dechrau brathu? A fyddai cyfnod fel enfys wedi bod yn gyfle i dorri cwys newydd ? Dwi yn amau ei bod rŵan mewn sefyllfa gryfach na petaent yn cynnal llywodraeth enfys. Trafoder."
Fel mae'n digwydd rwy'n eithaf mwynhau darllen nofelau . Am wn i, y nofel agosaf i'r genre yn Gymraeg yw 'Wythnos yng Nghymru Fydd' ac rwy'n fodlon mentro i fyd ffuglen a chynnig "Blwyddyn yng Nghymru na fu" i geisio ateb y sylw!
Gadewch i ni gymryd felly bod etholiad a digwyddiadau yn San Steffan wedi dilyn yr un patrwm ac eleni ond mai llywodraeth enfys o dan arweinyddiaeth Ieuan Wyn Jones oedd mewn grym yng Nghymru.
Fe fyddai ffawd Plaid Cymru o dan amgylchiad felly, dybiwn i, yn dibynnu'n llwyr ar barodrwydd y llywodraeth newydd yn San Steffan i roi triniaeth arbennig i Gymru yn ystod cyfnod y toriadau. Mae llywodraeth David Cameron a Nick Clegg, er enghraifft, wedi gohirio hyd yn oed ystyried unrhyw newid yn fformiwla Barnett tan ar ôl refferendwm 2011. A fyddai'r sefyllfa'n wahanol pe bai eu pleidiau mewn llywodraeth yng Nghaerdydd? Mae'n bosib y byddai hi.
Mewn sefyllfa felly gallai Plaid Cymru ymgyrchu yn 2011 fel y blaid oedd yn gallu sicrhau'r ddêl orau i Gymru mewn cyfnod ariannol anodd. Does wybod pa mor effeithiol y byddai apêl felly ond fe allai weithio.
Pe bai llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gwrthod rhoi unrhyw driniaeth arbennig i Gymru ar y llaw arall fe fyddai'r sefyllfa'n wahanol iawn. Mae'n debyg y byddai Llafur ar ei ffordd i goblyn o ganlyniad da yn etholiad 2011 ac mae'n ddigon posib y byddai'r enfys yn cwympo'n ddarnau cyn yr etholiad hwnnw
Mae hynny'n dod a fi at stori yr wyf wedi clywed o sawl cyfeiriad bellach. Does dim modd gwybod ydy hi'n wir ai peidio ond mae'r ffaith bod cymaint o bobol o wahanol liwiau yn ei hadrodd, ynddi hi ei hun yn ddadlennol.
Hanfod y stori yw bod y cyfarfod cyntaf rhwng David Cameron a Carwyn Jones ym mis Mai yn drychineb llwyr. Roedd Carwyn, yn ôl y stori, yn ymddwyn mewn modd swrth ac ymosodol - "passive-aggresive" fel maen nhw'n dweud yn Saesneg. Roedd Prif Weinidog Cymru yn gwgu a syllu at Brif Weinidog newydd y Deyrnas Unedig. Anwybyddodd yr Ysgrifennydd Gwladol yn llwyr, cymaint felly nes i David Cameron ofyn i Carwyn os oedd e'n deall fod ganddo hyder llwyr yn Cheryl Gillan a'i bod hi'n siarad dros ei lywodraeth.
Mewn gwrthgyferbyniad llwyr roedd y cyfarfod cyntaf rhwng Alex Salmond a David Cameron yn fêl i gyd ac mae 'na ambell i awgrym (ym maes amddiffyn, er enghraifft) bod 'na fwy o barodrwydd yn San Steffan i wrando ar lywodraeth Caeredin nac un Caerdydd.
Mae Plaid Cymru yn chwilio am ffyrdd i wahaniaethu ei hun o'r Blaid Lafur yn 2011. Efallai mai'r ffordd i wneud hynny yw trwy fynnu bod 'na wahaniaeth rhwng "gwneud y gorau dros Gymru" ac "amddiffyn Cymru" - os ydy amddiffyn yn golygu gwgu a gwrthwynebu popeth fel mater o egwyddor.
SylwadauAnfon sylw
Pinicl fy nhyrfa blogio !!. Blog arbennig gan Vaughan Roderick Toes ond un cyfeiriad i fynd rwan !!!
Dwi yn meddwl fod fy sylwadau yn adeiladu ar sylw blaenorol yn ynghlyn a ffawd y Democcratiaid Rhyddfrydol. Os rhywbeth mae hanes yn ailadrodd ei hun yma. Dwi yn credu fod Lloyd George wedi clymbleidio gyda'r Toriaid a bod hynny wedi effeithio ar ffawd y Rhyddfrydwyr bryd hynny.
Y moeswers dwi yn meddwl yw "Tydi gwneud y peth iawn ddim y peth iawn i'w wneud" gall hyn for yr un mor wir mewn bywyd ac mewn gwleidyddiaeth.