Taro'r Targed
Roeddwn i yn ôl y Bae ac er bod 'na hen ddigon i wneud roedd coridorau'r Senedd a Thŷ Hywel yn gymharol wag a'r ffreutur o hyd yn cynnig bwydlen wyliau. Nid bod fi'n cwyno ynghylch hynny! Mae'r bwyd sy'n cael ei gynnig pan nad yw'r Gweinidog Iechyd na'i sbeis o gwmpas at fy nant i! Yng ngeiriau'r hen hysbyseb; "I hope that it's chips, it's chips..."!
Ta beth fe fydd pethau'n poethi'n wleidyddol o hyn ymlaen hyd yn oed os ydy cogyddion y Cynulliad yn gorfod cuddio ambell i ffrimpan!
Mae gen i raglen wleidyddol newydd yn Saesneg yn cychwyn penwythnos nesaf ac fe fydd CF99 a Dau o'r Bae yn ôl ymhen ychydig. Cyn hynny daw cynhadledd gyntaf yr hydref sef un Plaid Cymru yn Aberystwyth.
Fe fydd honno'n gynhadledd ddiddorol gyda sawl awgrym bod 'na rywfaint o anniddigrwydd o gwmpas y lle ynghylch cyflwr a chyfeiriad y blaid. Mae hynny'n anorfod yn sgil etholiad cyffredinol siomedig yn enwedig gan fod y rhelyw o bobol y blaid dwi'n siarad â nhw bellach yn derbyn na ellir beio'r cyfan o'u methiannau ar y dadleuon teledu.
Mae'r sefyllfa tymor hir ynghylch yr arweinyddiaeth yn sgil penderfyniad Adam Price i gamu yn ôl o etholiad 2011 yn peri pryder i rai. Ar ben hynny mae arolygon ITV Cymru/YouGov yn awgrymu mai Llafur nid Plaid Cymru sydd yn elwa o'r cwymp yn y gefnogaeth i'r Democratiaid Rhyddfrydol ar hyn o bryd.
Gan ein bod ar drothwy Eid ul-Fitr rwyf am fynd i ysbryd yr ŵyl ac awgrymu ei bod hi'n bosib bod dyddiau'r newyn ar fin darfod i Blaid Cymru ac y gallai 'na fod dyddiau da, er nid gloddest efallai, ar y gorwel yn 2011.
Y darn cyntaf o dystiolaeth yw'r union arolygon barn hynny sy'n poeni nifer o bleidwyr. Mae'r rheiny yn gyson gosod Plaid Cymru ar y blaen i'r Ceidwadwyr, er dim ond o fymryn. Y tebygrwydd yw y bydd y gefnogaeth i'r Ceidwadwyr yn dirywio yn hytrach na chynyddu wrth i gig a gwaed y toriadau gwariant ddod yn fwy eglur. O gofio bod cefnogwyr Plaid Cymru yn fwy tebygol 'na chefnogwyr y pleidiau eraill i droi allan mewn etholiadau Cynulliad gall y blaid fod yn weddol hyderus o fod yn yr ail safle ar ddiwrnod y cyfri. Efallai nad yw hynny'n swnio'n fawr o beth ond doedd hynny ddim yn wir yn 1999, 2003 na 2007.
Mae 'na wers arall i ddysgu o'r tri etholiad yna sef hon. Gan nad oes digon o seddi rhestr i sicrhau canlyniad cyfrannol y strategaeth gywir mewn etholiad cynulliad yw buddsoddi adnoddau ac ymdrech mewn etholaethau targed. Hap a damwain sy'n sicrhau seddi rhestr ac afrad yw canolbwyntio ar y bleidlais ranbarthol fel gwnaeth y Democratiaid Rhyddfrydol yn 2003 neu obeithio y bydd enw mawr ar y rhestr yn gwneud gwahaniaeth fel gwnaeth Plaid Cymru yn 2007.
Yn 2011 y tebygrwydd yw y bydd dwy blaid yn ymladd brwydr ymosodol yn yr etholaethau sef Llafur a Phlaid Cymru ac ar y cyfan seddi Ceidwadol sydd ar y rhestr targedau Llafur. O dan yr amgylchiadau hynny os ydy Plaid Cymru yn dewis eu targedau'n ofalus ac yn glynu at fantra Richard Wyn Jones "dim dyffars mewn etholaethau targed" gallai'r blaid fedi cynhaeaf ffrwythlon.
Nawr nid dweud ydw i y bydd 2011 yn "annus mirabalis" i Blaid Cymru ond dydw i ddim yn deall pam mae ambell i bleidiwr a'i ben yn ei blu.
Cofiwch, efallai bod ysbryd yr ŵyl wedi effeithio gormod arna i! Gyda llaw rwy'n bwriadu sgwennu erthygl i godi calonnau cefnogwyr pob un o'r pleidiau ar drothwy eu cynadleddau er fy mod yn crafu fy mhen ynghylch sut mae gwneud hynny mewn un achos!
Ramadan Mubarak.
SylwadauAnfon sylw
Pa seddi dylai'r Blaid dargedi?
Gorllewin Caerfyrddin, Caerffili, Cwm Cynon, Castell Nedd a Gorllewin Clwyd yw'r targedau amlwg. Fe fyddai rhai'n ychwanegu Preseli a De Clwyd at y rhestr.
Y blaid honno yr ydych yn sôn amdano heb amheuaeth yw'r DemRhyddfrydol, Diwedd y gân yw'r geiniog iddyn nhw os chi'n gofyn i fi yng Nghymru. Cytuno gyda'r targedau.
John Toshack yn disgyn ar ei fai. Hen bryd i Ieuan Wyn Jones wneud hefyd.
Y broblem gyda'r targedau 'na, yn y tymor byr, yw bod tri ohonyn nhw (wi'n credu) yn arwain at golli sedd restr.
Gallai hynny ddigwydd. OND mae'n werth cofio bod Plaid Cymru yn 1999 wedi ennill sedd etholaethol a dwy sedd restr yn Nwyrain De Cymru ac yng Nghanol De Cymru. Fe gollwyd yr etholaethau yn 2003 ac o drwch blewyn yr enillwyd yr ail sedd rhestr yn y ddau ranbarth ers hynny. Y pwynt yw bod llwyddiant etholaethol yn esgor ar lwyddiant rhanbarthol. Yn fwy pwysig efallai, mae ennill etholaeth mewn sawl ystyr yn fwy gwerthfawr yn y tymor hir nac ennill sedd rhestr ar hap a damwain.
Hmmm Islwyn?
Ia dwi yn meddwl dy fod am gael anhawster gydag un Blaid. Dwi yn meddwl ei bod yn wynebu cyfnod anodd yng Nghymru a thu hwnt. Fel mae pethau yn sefyll fe fyddant yn colli pleidlais i newid y system etholiadol. Sef yr achubiaeth wleidyddol petai cefnogaeth etholaethol yn disgyn yn sylweddol. Petai wedi gynghreirio gyda Llafur fe fyddai wedi cael y newid heb refferendwm (dwi yn meddwl)? Drwy geisio gwneud y peth iawn mae Nick Clegg wedi gwneud y peth gwaethaf posibl iddo ei hun ac i'w Blaid. Hyd yn oes bydd pethau yn gwella yn economaidd y Ceidwadwyr fyddai yn dwyn y clod.
Roeddwn yn gwylio Clegg heddiw yn ceisio amddiffyn swyddog y wasg y Toriaid. Roedd y peth yn swnio mor gloff, ei fod ef, fel Dirprwy Brif Weinidog yn gorfod amddiffyn gwas y Toriaid rhywbeth hollol anaturiol. Gallwn ddeall amddiffyn polisi Cymbleidiol ond gwas Toriaidd ?? Achos orfod derbyn bai ond dim clod ??