´óÏó´«Ã½

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Yr Efengyl yn ôl Nick

Vaughan Roderick | 12:54, Dydd Mawrth, 12 Hydref 2010

Fe wnes i sgwennu post y dydd o'r blaen ynghylch y ffordd y mae Ceidwadwyr y Cynulliad wedi bod yn llawer fwy parod na'r Democratiaid Rhyddfrydol i roi ychydig o bellter gwleidyddol rhyngddyn nhw a'r glymblaid yn San Steffan.


Rhoddodd Nick Bourne ychydig o strwythur i'r strategaeth honno heddiwe trwy gyhoeddi'r hyn y gwnaeth ef ei hun alw'n "the Bourne doctrine".

Hanfod athrawiaeth yr Athro Bourne yw y bydd Ceidwadwyr y Bae yn cefnogi toriadau sy'n cael effaith gytbwys ar draws y Deyrnas Unedig tra'n gwrthwynebu'r rheiny sy'n cael effaith anghyfartal ar Gymru. Roedd toriadau posib i S4C a chau swyddfa basborts Casnewydd yn enghreiffiau o'r fath o dorriadau y byddai Ceidwadwyr Cymru yn eu gwrthwynebu meddai.

Munudau'n ddiweddarach mynnodd Kirsty Williams bod ei phlaid hi wedi mabwysiadu'r un egwyddor yn barod ond roedd hi'n amlwg nad oedd hi'n gyfan gwbwl hapus bod Nick Bourne wedi achub y blaen arni nac ychwaith honiad arweinydd y Ceidwadwyr bod arweinwyr y ddwy wrthblaid yn gwneud eu gorau i godi calonnau ei gilydd.

Ta beth am hynny, mae'r dacteg yn un gymharol glyfar ond mae iddi ei chyfyngiadau. Gan fod Cymru yn dibynnu'n fwy ar y sector gyhoeddus na'r rhan fwyaf o weddill Prydain mae modd dadlau bod unrhyw doriad bron yn anghytbwys ac yn annheg i Gymru.

Yn sicr gellid dadlau hynny ynglŷn â'r syniad o osod meini prawf mwy llym i'r rheiny sy'n hawlio budd-daliadau analluogrwydd. Dydw i ddim wedi clywed siw na miw ynghylch rheiny gan y naill blaid na'r llall.

Y gwir amdani, rwy'n amau, yw y bydd y ddwy blaid yn datgan eu gwrthwynebiad i doriadau fyddai'n wenwyn gwleidyddol yn y frwydr genedlaethol neu mewn brwydr leol yn 2011. Yn hynny o beth dyw e'n ddim gwahanol i'r aelodau seneddol hynny sy'n cefnogi ail-strwythuro'r swyddfa bost ond yn gwrthwynebu cau llythyrdai lleol neu'r cynghorwyr hynny sy'n 'cefnogi' addysg Gymraeg ond yn ceisio rhwystro pob cynllun i'w darparu.

O bryd i gilydd mae egwyddor yn bwysig ond mae diogelu sedd yn bwysicach. Cewch chi gyfeirio at y datganiad hwnnw fel "the Vaughan doctrine"!

O.N. Yn ei sesiwn gwestiynau'r prynhawn yma fe ddywedodd Carwyn Jones hyn; "Until last week we hadn't heard a thing that was different from the Welsh Liberal Democrats from the Coalition in Westminster." Ydy e'n darllen y blog yma, dywedwch?

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

´óÏó´«Ã½ iD

Llywio drwy’r ´óÏó´«Ã½

´óÏó´«Ã½ © 2014 Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.